Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/184

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Efengyl Ioan, fe lefair y Gwaredwr amdano megis un yn ennill trwy waith a dioddefaint y rhagorfreintiau Dwyfol oedd yn dreftadaeth iddo erioed. "Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes fel y cymerwyf hi drachefn."[1] Ie, cofiwn mail dodi ei einioes er mwyn ei chymryd hi drachefn sy'n rhyngu bodd Duw. Heb yr atgyfodiad y mae'r aberth yn ddifrod. Fe haeddodd yr Iesu gariad ei Dad, do, fe'i henillodd ar yr un tir a phe na buasai ganddo o'r blaen. "Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad, fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef."[2] i Mewn pennod arall y mae'n gwneuthur y peth oedd eiddo iddo erioed yn fater gweddi, fel pe buasai wedi rhoi popeth i fyny fel mater o hawl, er mwyn bod ar dir i'w hennill hwy'n ol ar lwybr gwasanaeth. "Ac yrawrhon, O Dad, gogonedda di fyfi â'r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd."[3] Gwyddom wrth gwrs fod mwy nag un "bodlonwyd, Bodlonwyd " y bedydd a " Bodlonwyd " y gweddnewidiad—awgrym fod yr Iesu wedi rhyngu bodd ei Dad dan amodau cnawd, nid yn unig trwy ymgymryd â'i waith fel Iachawdwr, ond hefyd trwy dderbyn a dioddef popeth yr oedd hynny yn ei olygu. Y mae Fairbairn yn ceisio troi min y gair yn yr Epistol at y Galatiaid, "gan ei wneuthur yn felltith drosom," trwy ddywedyd mai melltith y Gyfraith Iddewig oedd y felltith hon. Ond wedyn, nid oedd melltith y gyfraith honno ar y sawl a fyddo yng nghrog ar bren ond gwedd eithafol ar y felltith oedd ynglŷn â phob marw i greadur o ddyn, ac o'r ysgymundod hwnnw y mae cymdeithas yn ei gyhoeddi ar bawb a wnelo achos yr euog yn achos iddo'i hun. Yr Iesu ei hun a welai yn ei ddioddefiadau gyflawniad o'r broffwydoliaeth, "a chyda'r anwir y cyfrifwyd ef."[4] Os gofyn

Os gofyn rhywun pa beth yn Nuw

  1. Ioan x. 17.
  2. Ioan xv. 10.
  3. Ioan xvii. 5.
  4. Luc xxii. 37.