Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/185

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ar ei brawf, pan ymostyngodd Duw yng Nghrist i fynd dan y ddeddf, yr ateb fydd, ei gariad at bechadur a'i gasineb at bechod. Dyma a feddyliai Paul wrth gondemnio pechod yn y cnawd.[1]

Weithian yr ŷm ar dir i roi ystyr i rai hen feddyliau cynefin, er nad yn union yr un ystyr ag a roddid iddynt gan ddiwinyddion yr oes o'r blaen. Dyna'r gair "haeddiant," y mae hwnnw yn golygu rhywbeth, a rhywbeth mawr iawn. Dywedai David Jones, Caerdydd, wrth Thomas Charles Edwards, mai damcaniaeth Anselm oedd damcaniaeth ei dad, y Dr. Lewis Edwards, ond ei bod hi wedi ei diwygio; ac addefai'r Prifathro degwch ei feirniadaeth. Yn awr y mae ymdriniaeth Lewis Edwards â'r idea o haeddiant yn enghraifft dda o'r fath gyfnewidiad a wnaeth ef ar system Anselm. Dywedai Lewis Edwards nad oedd y gair "haeddiant ddim yn y Testament Newydd, ond fod yno air o'r un ystyr, y gair "teilwng." "Teilwng yw'r Oen, yr hwn a laddwyd." Ond y mae rhoi teilyngdod yn lle "haeddiant " yn burion ffordd o farcio'r gwahaniaeth rhwng Anselm a Dr. Edwards. Yr ydys wedi llithro i arfer y gair "haeddiant," ac yr oedd peth sail i hynny yng ngwaith Anselm ei hun hefyd, am rywbeth y gellir ei drysori ar wahân i'r sawl a'i henillo, a rhywbeth yn wir sydd i'w gysylltu yn fwy â gweithred nag â pherson. Y mae teilyngdod, o'r tu arall, yn ein gyrru ni i feddwl am berson yn fwy nag am weithred; a dyna yn ddiau un o gyfraniadau mawr y Doctor ar yr athrawiaeth—" Haeddiant yn aros yn y Person."

Dyna ddrychfeddwl arall, pur gynefin i'r Cymro, drychfeddwl a gysylltir ag enw Grotius yn yr hen amser, ac ag enw Dale o Birmingham yn ein hoes ni, "Y ddeddf o dan ei choron." Ac nid yw'r hen idea o sarhad ar anrhydedd y Brenin Mawr os byddai'n

  1. Rhufeiniaid viii, 3