gadael pechod yn ddi-sylw, ddim yn amddifad o ystyr, ond inni ei diosg hi o'i diwyg hen-ffasiwn. Rhaid inni gofio bod safle ac urddas gymdeithasol yn beth yr arferai pobl y Canol Oesoedd ei raddoli a'i brisio mewn arian. Yr oedd mwy o ddirwy am ladd brenin nag am ladd iarll, am ladd barwn nag am ladd gŵr bonheddig. Tynnwn ni'r ddiwyg Ffewdaidd oedd am y syniad, y mae'r peth oedd gan Anselm mewn golwg yn ei le. Gall ei ddull o'i ddywedyd ef fod yn bur chwithig; ond yr oedd yr hyn yr amcenid ei ddatgan yn wirionedd—bod Duw, wrth ddyfod yn Waredwr i bechadur, wedi ei osod ei hunan dan brawf, wedi dyfod dan y ddeddf. Yr oedd gan Dduw ei gymeriad—ei ogoniant, os mynnwch chwi; ac yng Nghrist Iesu fe fedrodd drugarhau wrth bechaduriaid, mynd i mewn i'w hamgylchiadau hwy, dioddef y felltith oedd arnynt, heb syrthio is-law iddo'i hun.
A'r dirgelwch o fedru gwneuthur hynny oedd ei fod yn costio dioddef iddo. Synnai'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid fod hwn yn derbyn pechaduriaid ac yn bwyta gyda hwynt, yn ei wneuthur ei hun yn un ohonynt. "Pe bai hwn broffwyd," meddai Seimon y Pharisead, "efe a wybuasai pwy a pha fath wraig yw'r hon sydd yn cyffwrdd ag ef; canys pechadures yw hi." Ni wyddai'r Phariseaid ddim faint oedd hi'n ei gostio iddo ef fynd mor agos at bechaduriaid; a'r gofid a deimlai oherwydd eu pechod hwy oedd yn ei gyfiawnhau. Yr oedd eisiau'r Groes i gyfiawnhau bywyd fel hwn yn y fath agosrwydd at bechadur. Pe buasai ef yn gallu dygymod â'r berthynas y daethai iddi er mwyn bod yn Waredwr i ni, heb ddioddef o'r herwydd, ildio i bechod a fuasai hynny. Ond mor bell ydoedd o ildio i bechod fel y talodd y dreth eithaf a fedrai cnawd ei thalu i glirio'i hun.
"Gwell ganddo na halogi
Cyfiawnder pur y Tad
Oedd lliwio'r croesbren garw
Fel sgarlad yn Ei waed."