Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/188

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lle y dodir ef gan awdur yr Epistol. Prawf i ni o gariad Duw, a chefnogaeth foesol i ddilyn Crist, dyna ydyw ei hanes ef, y rhan amlaf lawer, yn dioddef gan gael ei demtio. Yn awr y mae hynny yn yr Epistol yn ddiau; ond nid ar hynny y gesyd yr awdur fwyaf o bwys. Er ei fod yn traethu am Iesu Grist fel apostol ein cyffes ni, ac fel Tywysog ein Hiechydwriaeth, amdano fel Archoffeiriad y mae'n sôn mwyaf; ac yn y gyfran ar yr offeiriadaeth y daw'r ddysgeidiaeth am demtiad a dioddefiadau'r Iesu i mewn. Ym mhellach fyth, nid temtiad yr anialwch sy ganddo fwyaf mewn golwg, ond temtasiynau'r Ardd a'r Groes. Ofn marw ydyw un o'r rhai pennaf ohonynt. Yn ii. 17—18 nid oes le i osgoi'r casgliad hwn. "Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i'w frodyr, fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlawn, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymod dros bechodau'r bobl. Canys yn gymaint a dioddef ohono ef, gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo'r rhai a demtir." Y cymorth neilltuol yr enillodd ef fodd i'w roi drwy ddioddef a chael ei demtio oedd gwneuthur cymod dros bechodau'r bobl—nid eu calonogi yn yr ymdrech ddim, ond cael iddynt faddeuant a rhyddhad. Profiad oedd y temtio a fu arno, a'r dioddef a aeth drwyddo, a'i cymhwysodd i fynd i'r cysegr drosom, a'i gwneuthur hi'n dda rhyngom â Duw. Ei gymhwyso a wnaed trwy ddioddef gan gael ei demtio i weini dros ddynion mewn pethau yn perthyn i Dduw. Fe ddaeth yn ddiau o'r nefoedd i'r ddaear i ddywedyd wrth ddynion pa fath un yw Duw; ond aeth yn ol hefyd o'r ddaear i'r nef i ddywedyd wrth Dduw beth ydyw bod yn ddyn. Dehonglodd brofiad yr amherffaith a'r temtiedig yng nghyfrinach y Duwdod Mawr.

Beth felly a enillodd Duw wrth ymgynefino â phrofiadau dyn, ac yn neilltuol wrth wybod beth yw ystyr dioddef a marw, a dioddef y gyfryw farwolaeth