ag yr oedd blas y felltith arni? Nid parodrwydd newydd i drugarhau, nage, ac eto rhywbeth pur sylweddol a phendant, medr newydd. Oes, y mae rhywbeth y gellid ei alw'n fedr newydd yn Nuw i wrando gweddi. Nid Duw ydyw'r Duw'r Beibl wedi cau arno'i hun yn ei berffeithrwydd, ond Duw yn medru dyfod allan o hono'i hun, a mynd i mewn i brofiad yr amherffaith. Llinell â'i llond o ystyr yw honno
"Mae'n medru maddeu a chuddio bai."
"Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr yr hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes. Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd-ddioddef gyd â'n gwendid ni, ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud a ninnau, eto heb bechod. Am hynny awn yn hyderus at orseddfaine y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol."[1] Dyna'r ffordd sy gan yr Epistol yma o ddehongli offeiriadaeth Crist, Duw yn ennill rhywbeth trwy ddyfod yn ddyn, a dioddef gan gael ei demtio.
Gair pur awgrymog ydyw "cymorth cyfamserol." Fel y gwelsom eisoes, wrth drin gwedd arall i'r pwnc, y mae anhawster ynglŷn â'r idea o Dduw tragwyddol yn deall sut y mae pethau yn digwydd mewn amser; ond y mae offeiriadaeth Crist yn esbonio. Fe fedr y Brenin Mawr ddyfod i mewn i'n hamgylchiadau ni, a gwybod sut y mae hi arnom. Ychydig mewn cymhariaeth a ddywedodd yr eglwys yn ei chredoau ar y pen hwn, ond llawer iawn yn ei hemynau.
"Er dy fod Ti heddyw'n eistedd
Yng ngogoniant nef y nef,
Mewn goleuni mor ddisgleiried
Na elllir nesu ato ef,
'Rwyt yn edrych
Ar d'anwylaf yn y byd."
- ↑ Hebreaid iv. 14-16.