hun nag i'r troseddwr; ac os doi'r troseddwr i gwyno, gwnâi yntau'r ymddiheurad llwyraf ar unwaith. Cyfrifai ei gydefrydwyr yn y Bala ef, fel y rhaid i bawb ei gyfrif erbyn hyn, yn llenor gwych ac yn Gymreigiwr dan gamp. Rhyfeddach na'r cwbl, yn ol y Dr. Ellis Edwards, yr hwn a letyai yn yr un tŷ ag ef,—yr oedd Roberts gyd a'r goreu o'r tô hwnnw am ysgrifennu Lladin. Peth ydyw hynny a ystyrir yn goel sicr o ddiwylliant manwl, a pheth y dywed llawer athraw nad oes braidd bosibl ei gyrraedd heb flynyddoedd o hyfforddiant. Bechgyn wedi bwrw'u holl amser mewn Grammar Schools, a hynny'n gynnar ar eu hoes, sy'n arfer rhagori yn y grefft. Ond pan eid i gymharu cyfieithiad Thomas Roberts a'r Llyfr Cyfiaith, byddai o fewn dim i fod yn ddi-wallau. Y mae'n syn hyd heddyw pa fodd y cyrhaeddodd gŵr na chafodd ond ychydig o addysg fore oes y fath raddau o ddillynder. Cadwodd y Lladin i fyny hefyd, fel y gwnâi a'i efrydiau eraill. Copi Lladin, y mae'n ymddangos, oedd ganddo o Bengel. Dywed Mr. Edwards eto, nad adwaenai neb a gadwai ei lyfrdy yn fwy gwastad a chynnydd gwybodaeth yr oes nag y gwnâi Mr. Roberts.
Beiid ef weithiau gan eraill, ac o hyd ganddo'i hunan, am ddiffyg trefn; eithr rhaid fod trefn gudd yn perthyn iddo fel efrydydd, o dan y brys a'r aflonyddwch a'i nodweddai. Bum yn gyrru ato am ddyfyniad o Coleridge, wedi chwilio llawer am dano fy hun, ac yn ei gael gyda throad y post. Yr oedd yn gofus iawn hefyd. O ddyn mawr nid yn aml y caech chwi un a chystal cof geiriau ganddo. Nid oedd ei gof ef, fe allai cyn baroted a chof y Dr. Owen Thomas. Byddai raid galw ddwywaith neu dair ambell dro, cyn y doi'r peth y byddai arno eisieu; ond pan ddeuai, fe ddeuai yn odiaeth o gywir. Euthum mor ffol unwaith ag anturio dadleu a Mr. Roberts am eiriau rhyw adnod; ac er nad ymddangosai efe cyn sicred o'i bwnc o lawer a mi, gwelais wedi mynd adref ei bod hi ganddo