Yn wir, braidd na ddywedai dyn fod athrawiaeth. yr Iawn yn un mor ddyrchafedig tu hwnt i'n dulliau cyffredin ni o feddwl, na fedr dim ond barddoniaeth a chanu ei thraethu fel y dylai hi gael ei thraethu. Y mae Iesu Grist wedi mynd i'r nefoedd, ac wedi mynd a'i brofiadau dynol yno gydag ef. Fel y byddai'r diweddar William Jones o Gonwy'n arfer dywedyd, wrth ddisgrifio'r disgyblion ar y môr, a'r Iesu'n eu gwylio hwy oddi ar y mynydd, "Efe a'i gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo"; ac wrth iddo weddïo drostynt, "y mae delw'r storm ar yr eiriolaeth." Y mae'r cymorth y medr Duw ei roddi yn awr yn gymorth cyfamserol. Ystyr newydd sydd i gariad Duw bob tro yr eiriolo Mab Duw drosom. "O phecha neb, y mae i ni eiriolwr gyda'r Tad." Dyna ydyw'r eiriolaeth yn y golygiad hwn, cymhwysiad neilltuol o gariad Duw at amgylchiad pechadur bob tro y bo angen am dano. "O phecha neb, y mae i ni eiriolwr." Doniau'r Ysbryd Glân, doniau ydynt a blas yr ymgnawdoliad arnynt. Fe rydd Moberley bwyslais ar yr ystyriaeth fod yr Ysbryd, nid yn Ysbryd Duw yn unig, ond yn Ysbryd Crist. Ysbryd y Duw dynol ydyw. Cawodydd y fendith, cawodydd dwyfol glwy' ydynt. Dyma a feddylir wrth ddywedyd bod yr Ysbryd yn cael ei roi yn enw Iesu Grist. I ddyfod yn ol at yr "Hebreaid," y mae bywyd y Gwaredwr y tu mewn i'r llen llawn cyn bwysiced at ein hiechydwriaeth ni a'i farwolaeth drosom yn y cnawd—
"Yr Archoffeiriad yn taenellu'r gwaed."
Dyma yr ail gainc yn yr athrawiaeth am angau'r Groes yn ei berthynas â Duw—y Brenin Mawr yn dyfod yn gyfrannog o brofiadau dyn.
Duw'n feichiau dros ddynion.
III. Ond y mae ystyriaeth arall y dylid ei hychwanegu am yr hyn a olyga'r Groes heblaw dat-