Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/191

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

guddiad, Duw yn meichnïo dros ddyn. Y mae'r idea o Grist drosom ni fel ein cynrychiolydd yn un a geir gan amryw o awduron y Testament Newydd. Efo ydyw'r Adda newydd, gwreiddyn dynoliaeth santaidd; ac fel Adda newydd y rhoes ufudd—dod i'w Dad dros ddynion. Fe gondemniodd Duw bechod yn y cnawd, fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf" (dedfryd y ddeddf) " ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ol y cnawd eithr yn ol yr ysbryd." Er bod cyfiawnhad trwy ffydd yn golygu cyfiawnhau'r annuwiol, eto y mae adnewyddu'r annuwiol yn y golwg o'r cychwyn. At y pwrpas hwn y mae bywyd newydd yr Iesu mor bwysig at ein hachub ni a'i angau, ond bod Paul yn cyplysu'r bywyd newydd â'r atgyfodiad y rhan amlaf. fel y mae'r Hebreaid yn ei gysylltu y rhan amlaf â'r esgyniad. Nid yw'r peth ddim amlycach yn unman nag ym mhrif epistol y Cyfiawnhad, yr Epistol at y Rhufeiniaid. Beirniadaeth Moberley ar Dale, a beirniadaeth deg hefyd, ydyw ei fod, wrth esbonio athrawiaeth yr Iawn yn yr Epistol hwnnw, yn terfynu heb egluro'r wythfed bennod. A dyna ydyw'r wythfed bennod o'r Rhufeiniaid, pennod i ddangos sut y mae maddeuant yr Efengyl yn cynhyrchu bywyd newydd. Bodloni a wnaeth diwinyddiaeth gan mwyaf ar ddywedyd bod buchedd newydd, fel holl fendithion y Drefn, yn dyfod o Grist Iesu trwy ffydd. Y mae Paul yn mynd ym mhellach. Dengys ef fod y maddeuant y mae'r Efengyl yn ei gynnyg—maddeuant wrth Groes y Ceidwad, ein claddu gydag ef a'n cyd—gyfodi ag ef i fuchedd newydd—y moddion mwyaf pwrpasol a fedrai Duw ei ddyfeisio at adnewyddu'n cymeriadau ni—maddeuant yr Efengyl yn foddion gras. Y mae'n hundeb ni â Mab Duw yn wystl ac yn feichnïaeth y cawn ninnau fod yn bur. Heb y feichnïaeth yma buasai'n annheilwng o Dduw ein cyfiawnhau ni. mae Duw yn cyfiawnhau am fod ganddo fodd i adnewyddu,