cyflwynodd ei hun ger bron ei Dad i'w farnu, fel ein meichiau a'n cynrychiolydd ni.
Fel ein Gwaredwr, wedi dioddef gan gael ei demtio, aeth i'r cysegr i wneuthur cymod drosom; fel ein Meichiau aeth i'r llys i'w farnu. Heblaw byw a marw a byw drachefn, er mwyn ein hachub ni, fe ymgymerodd â chyfrifoldeb drosom, fe warantodd y doem ni ryw ddiwrnod yn werth ein hachub. Ar ddeheulaw'r Tad y mae ef yn flaenffrwyth y gwaredigion, yn dywysog a pherffeithydd ffydd, nid ffydd ei bobl ddim, yn y fan yna, ond ei ffydd ei hun. Y mae'n gredwr, a gariodd gredu i'w berffeithrwydd llwyr. Efo, chwedl David Charles Davies, yw'r credadun pennaf.
Ceir cadarnhad i'r meddwl hwn o le braidd heb ei ddisgwyl, Efengyl Ioan. Ymgnawdoliad yn fwy na'r Iawn yw canolbwnc yr Efengyl honno. Dyfynnai John Parry y Bala esiampl o holi da mewn dosbarth Ysgol Sul—gŵr ar ei dro, yn cael cennad i holi yn y maes a fynnai; ac un o'i gwestiynau cyntaf ef oedd: a oes gennych adnod ar gyfiawnhad trwy ffydd o Efengyl Ioan? Ar yr olwg gyntaf gellid tybied eu bod hwy yn lled brin; ond dyma un, beth bynnag, ar yr elfen fechnïol yn yr Iechydwriaeth. Y mae yn o hawdd gan Ioan weld rhyw awgrym cudd o wirionedd mawr mewn lle na buasai llygad cyffredin yn gweled dim ond damwain. Ac fe wêl hynny yn nywediad yr Iesu wrth gyfarfod â'r milwyr a ddaethai i'r ardd i'w ddal ef. "Os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhai hyn fyned ymaith. Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O'r rhai a roddaist i mi, ni chollais i yr un."[1] Fe wêl Ioan yng ngwaith yr Iesu yn ei gynnyg ei hunan yn lle'i ddisgyblion gydnabyddiaeth ganddo o'i swydd fel Gwaredwr—cyflawniad o'r broffwydoliaeth oedd yn y weddi fawr. Yn ol Ioan, fe wyddai yr Iesu fod ei roddi ei hunan yn lle'r disgybl-
- ↑ Ioan xviii. 8-9.