Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/195

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V

YR IAWN.

PENNOD I.

"AG UN OFFRWM."

NEILLTUOLRWYDD yr Efengyl ydyw iechydwriaeth trwy un offrwm. "Megis trwy un camwedd y daeth barn ar bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un weithred o gyfiawnder y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd."[1] Od oes rhywbeth na fedrodd y feirniadaeth lymaf ei dynnu o'r Testament Newydd, dyma fo. A amheuo hyn, darllened Dale a Denney. Y mae'r ddau ddysgawdr wedi trin y wedd Ysgrythyrol i'r pwnc mor lwyr ac mor ddiwrthdro, nad oes dim eisiau mynd dros y rhan yna o'r maes drachefn; ac y mae'r ddau wedi traethu mewn Saesneg mor syml a di-gwmpas, fel na bydd raid i Gymro a fedro rywfaint o Saesneg ofni methu eu dilyn. Pe bai'n addas beirniadu, am a wn i nad yw'r rhan Ysgrythyrol o waith y Dr. Dale yn fwy diwrthdro na'r rhan athronyddol. Ond er bod y Testament Newydd ym mhob man yn dysgu iechydwriaeth trwy un offrwm, neu ynte'n cymryd y pwnc yn ganiataol, y man lle y ceir yr athrawiaeth wedi'i grisialu berffeithiaf ydyw'r Epistol at yr Hebreaid. "Hynny a wnaeth efe unwaith pan offrymodd efe ef ei hun." "Crist, wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r adeiladaeth yma, nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i'r cysegr, gan gael i ni

  1. Rhuf. v. 18.