ar grefydd a chanddi gyflawnder o ddefodau rhwysgfawr a chofleidio un blaen, seml—foel i'w olwg efcrefydd a roddai bopeth i droi o amgylch un offrwm. Beth oedd yn fwy naturiol nag iddo deimlo hiraeth am yr hen grefydd?
Ond wedi'r cwbl, er mai gan yr hen grefydd yr oedd y defodau, yn y cyfamod newydd yr oedd diben crefydd yn cael ei gyrraedd. Beth oedd y cyfamod newydd? Beth ydoedd ef i fod yn ol yr addewid am dano yn Jeremiah? Perthynai iddo amryw fendithion; ond yr oedd dwy o'r rheini ag y mynnai'r Awdur yma i ni ddal yn arbennig arnynt, dodi'r gyfraith yn y meddwl a maddeuant pechodau. Y mae'n amlwg mai'r rheini ydyw'r prif bethau at ei bwrpas ef; oblegid at y rheini y dychwel efe yn y ddegfed bennod, wrth gloi'r ymdriniaeth i fyny. "Wedi iddo ddywedyd o'r blaen, Dyma'r cyfamod a amodaf fi â hwynt ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a'u hysgrifennaf yn eu meddyliau; y mae yn dywedyd drachefn, A'u pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf mwyach." A dyna ddau bwnc mawr crefydd ei dau begwn hi—cael Duw at ddyn trwy roddi'r gyfraith yn y meddwl, a chael dyn at Dduw trwy faddeuant; ac o'r ddau maddeuant ydyw'r sylfaen yn ol Pennod viii. "Hwynt—hwy oll a'm hadnabyddant i, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt. Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau." Dyna'r rheswm mawr dros roi'r gyfraith yn y meddwl, a thros holl fendithion y cyfamod newydd. Maddeuant ydyw'r sylfaen. Ac er bod gan y grefydd Iddewig lawer iawn o aberthau, ac amryw olchiadau a defodau cnawdol, ni lwyddodd hi fel system ddim i roddi'r ddau beth mawr, maddeuant a'r gyfraith yn y meddwl. Yr oedd dynion yma ac acw, bid siwr, yn eu cael hwy dan yr orchwyliaeth honno, ond nid trwy'r orchwyliaeth honno ddim. Nid oedd ganddi hi mo honynt i'w rhoi.