Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/198

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac os nad atebodd y defodau lawer y diben, ac od yw'r grefydd newydd a'i defodau syml yn ateb y diben, beth a gollasoch chwi wrth gofleidio honno a throi cefn ar yr hen?

"Os oedd gwaed teirw a geifr, a lludw anner, wedi ei daenellu ar y ihai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd," yn derbyn dyn i seiat yr hen gyfamod, wedi iddo golli'r fraint, pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro'ch cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw?" Y mae'r peth y methodd yr hen gyfamod, er ei holl wychter, ei gyflawni, wedi ei gael yng Nghrist—y pechadur wedi ei ddwyn a'i dderbyn i wir gysegr presenoldeb Duw, a Duw megis wedi rhoi benthyg ei gydwybod i'r troseddwr.

Er mwyn helpio'r meddwl Iddewig dros y gamfa, fe ddefnyddir dwy gymhariaeth—marw a thestament, yn gyntaf, marw a barn yn ail. Ni gawn gyfle i egluro'r ddiweddaf o'r ddwy yn nes ymlaen. Gair ar y gyntaf yn unig sydd raid wrtho yn y fan hyn.

Y gair cyfamod a awgrymodd y gymhariaeth, gan ei fod yr un un yn Roeg a'r gair testament. "Ac am hynny y mae efe yn gyfryngwr cyfamod (neu destament newydd "; nid y Testament Newydd ddim yn y fan yma, ond math newydd o destament, testament ar linellau newyddion), "fel trwy fod marwolaeth wedi digwydd er ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y testament cyntaf, y câi y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol." Marwolaeth Crist oedd y farwolaeth honno, fel y mae'n eithaf eglur ond cyfieithu fel yna. Ac y mae'r cyfieithiad cywir o ix. 15 yn gwneuthur trawsgyweiriad esmwyth i'r ymhariaeth sydd yn yr adnodau nesaf. "Lle byddo testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr. Canys wedi marw dynion y mae testament mewn grym, oblegid nid oes eto nerth ynddo tra