fyddo'r testamentwr yn fyw." Fel pe dywedasai fo wrth yr Hebreaid: "Methu dygymod yr ydych a'r syniad o un offrwm yn lle'r offrymau lawer—un digwyddiad yn peri'r fath wahaniaeth. Ni ddylai hynny ddim bod mor anhygoel i chwi chwaith. Ambell dro fe wna un digwyddiad wahaniaeth mawr ym mysg dynion, yn enwedig un marw. Y cwestiwn yw, pwy a fu farw? a pheth a wnaeth ef cyn marw. Peth posibl yw ei fod wedi gwneuthur addewidion mawr, a bod ganddo fodd i'w cyflawni hwy; ond addewidion testament oeddynt, a thra'r oedd ef yn fyw, ni roddai neb nemawr o bwys arnynt." Ni a welsom weithiau ddarllen ewyllys yr ymadawedig ar ddydd yr angladd. Tamaid sych iawn yng nghanol cyflawniadau y diwr nod ydyw hwnnw—rhyw doriad oer ar draws y wawr o brydferthwch prudd a ymdaenasai dros bopeth. Yng nghanol y galar, cyn i'r cwmni braidd eistedd i lawr ar ol dyfod o'r fynwent, dacw ryw ŵr swyddogol ei ddull a'i osgo yn brathu ei ben o'r parlwr, ac yn gofyn: "a wêl y teulu'n dda ddowad yma i ni gael darllen hon?" A dyna sydd ganddo, rhyw ddernyn o bapur wedi ei 'sgrifennu mewn Saesneg cyfreithiol; ond ni waeth hynny na rhagor, fe wnaeth y tamaid papur wahaniaeth mawr i'r sawl a ennwyd ynddo. Gwnaeth bobl dlodion yn bobl gefnog mewn ychydig funudau. Gynnau ni chawsai rhai o honynt goel am bapur pum—punt, y maent yn werth rhai cannoedd bob un weithian. Ac eto'r oedd y papur yno ers tro, yh gorwedd yn segur yn nesg rhyw gyfreithiwr, yn safe rhyw fanc; ond erbyn heddyw y mae'r addewidion wedi dyfod i rym. Y mae'r neb a'u gwnaeth hwy wedi marw. Felly yma, os ydyw hi'n edrych yn beth rhyfedd fod marw pen Calfaria yn gwneuthur y fath ragor i feibion dynion, cofiwn fod y Gŵr a fu farw yn wr—bonheddig pur fawr. Y mae'n werth bod yn perthyn iddo heddyw. Heddyw y mae y rhai y cofiodd ef am danynt yn dyfod i'w hystâd. Paham? Y
Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/199
Prawfddarllenwyd y dudalen hon