ef bob llythyren. Adroddai gweinidog am hen ŵr a fu'n gweithio am yspaid mewn cyfle i gael y seiat yn Jerusalem, yn amser Mr. Roberts. Dywedodd wrth ei weinidog gartref, ddarfod i wahaniaeth barn godi rhyngddo a Mr. Roberts yng nghylch cysylltiadau rhyw adnod a adroddasai efe, o un o lyfrau'r Brenhinoedd fel y tybiai ef. Dywedodd ei weinidog wrtho, mai efe oedd yn ei le, mai adnod o'r Brenhinoedd oedd hi; ond cyn hir cafodd y gweinidog fod Mr. Roberts. yn ei le hefyd, gan fod yr adnod i'w chael yn Jeremiah yn gystal ag yn y Brenhinoedd.
Medrai Lyfr hymnau Roger Edwards braidd o'i gwr, rhif y tudalen a'r cwbl; a phan ofynnodd Owen Jones, blaenor Jerusalem, iddo sut yr oedd mor annibynnol ar y llyfr, ei ateb oedd ei fod wedi ei ddysgu allan wrth ei gysodi.
Ac ni waeth i ni orffen gyd a hyn yrwan nag eto, er inni wrth hynny achub blaen yr hanes, gadawodd ei efrydiau diwyd eu hol arno mewn coethder mawr, nid coeg-fanylwch o gwbl, llawer llai coeg-ddysgeidiaeth, namyn y coethder diymhongar hwnnw sy'n gynwysedig i gryn raddau mewn bwrw pethau tramgwyddus i ffwrdd. Gwelir yr ysgolhaig coeth lawn cymaint yn y pethau nas dywed ac yn y pethau a ddywed. Gallesid meddwl ar gip, fod Thomas Roberts yn lled ddiofal o reolau iaith. Yr oedd ei Gymraeg pregethu yn rhy sathredig gan rai. Ni fyddai'r arddull mor swyddogol ag eiddo'r rhan fwyaf o'i frodyr. Eto chwi a aech yn feichiau drosto na byddai iddo dripio mewn mater o chwaeth. Yr oedd ei safon yn uchel, a chadwai yn gaeth ati. Galwodd fi i gyfrif unwaith yn ei ddull tyner ei hun, am arfer y gair "Crefydda" mewn ysgrif; a gwnaeth hynny mor bwrpasol ac effeithiol, nes bod yn gas gennyf y gair byth er y tro hwnnw. Ei duedd yn wir oedd bod yn rhy lawdrwm ar yr hyn a alwai'r Dr. Saunders yn Gymraeg eisteddfodol. Fel y dywedai un o'i gymdogion