testamentwr sydd wedi marw. Nid un digwyddiad noeth, di—gysylltiad, oedd y marw hwnnw. Na, yr oedd holl eiddo'r gŵr i gael ei rannu bellach. "Holl addewidion Duw," neu yn gywirach, meddir, "Addewidion Duw pa faint bynnag sydd o honynt, ynddo ef y mae'r ïe; am hynny hefyd trwyddo ef y mae'r amen, er gogoniant i Dduw trwom ni."[1] Fe ddaeth bywyd yr Iesu Mawr i'w gynhaeaf yn angau'r groes, do'n wir, fe addfedodd ffrwythau'r cyfamod hedd yn y marw hwnnw.
Wel atolwg, os ydyw'r cwbl o grefydd wedi ei grynhoi i gyn lleied o gwmpas, i ba beth yr oedd yr Hen Oruchwyliaeth a'i lliaws defodau da? Y mae'r atebiad yn nechreu Pennod x. "Yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn." Dyna wasanaeth cyfundrefn aberthol yr Hen Destament, deffro'r ymwybyddiaeth o bechod, a'i chadw hi'n fyw. Pregeth hir ar bechod oedd y Cyfamod Cyntaf, ac undonedd y weinidogaeth oedd ei gogoniant hi. Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu'n fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechod." Fe ddywed Westcott fod pwyslais ar y gair "sefyll." Paham ynte y mae'r offeiriad yn sefyll? Sefyll y mae am ei fod heb gael ei neges, am nad yw'r drafodaeth ddim ar ben. "Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw, o hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i'w draed ef." Fel y dywed un o'r esbonwyr, yn lle sefyll o flaen y drugareddfa, fe aeth ef rhag ei flaen ati, fe eisteddodd arni, a'i throi hi yn orsedd gras. Bellach nid problem yw maddeu i bechadur, ond pwnc wedi ei benderfynu. Ymbil am dderbyniad yr oedd tiriondeb at bechadur o'r blaen; cyhoeddi y mae
- ↑ 2 Cor. i. 20.