Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/201

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bellach fod maddeuant i'w gael. Y groes a osododd gariad maddeuol ar ei orsedd—

"Na foed im feddwl ddydd na nos
Ond cariad perffaith angau'r groes;
Hwn alwaf mwy yn orsedd gras:
Ar Galfari mae mainc y nef,
Yn agos at ei groeshren ef:
Oddi yno rhoddir hedd i maes."

Yn y fan yma y collodd Eglwys Rufain y ffordd ar gwestiwn y Groes. Nid nad yw'r Eglwys liosog ac ardderchog honno, ar hyd ei thaith wedi rhoddi lle mawr i'r groes. Y mae ei holl wasanaeth hi'n troi o gwmpas bwrdd y cymun. A phan ymladdai ryfeloedd gwaedlyd â'r anffyddwyr, y groes fyddai'i baner hi. Ond y mae ei syniad offeiriadol hi am y Sacrament wedi darostwng y groes o'r lle oedd iddi yn y Testament Newydd. Athrawiaeth Eglwys Rufain ydyw, bod yr offeiriad yn ail-offrymu aberth y groes bob tro y gweinydder yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Y mae'r cymun yn aberth; y mae gweddi yn aberth, y mae canu yn aberth, a'r casgliad yn aberth yn bendifaddeu; aberthau moddion gras ydyw'r rhai hynny, ac am hynny gellir eu hamlhau faint a fynnom.

Offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i'w enw ef. Ond gwneuthur daioni a chyfrannu nac anghofiwn; canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw."[1] Eithr nid moddion gras ydyw'r groes ddim. Hyhi a sefydlodd orsedd gras. Wrth droed y groes y mae moddion gras yn cael eu trwydded. Nid un o lawer o ymarferiadau Crefydd ydyw'r aberth mawr, ond trwydded iddynt hwy i gyd. Pan aeth Crist Iesu i'r cysegr yn nheilyngdod ei waed ei hun, fe adawodd y ffordd yn agored. Fe wnaeth rywbeth trwy farw ar y groes nad

  1. Heb. xiii, 15, 16,