oes eisiau ei wneuthur mwy. "Ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio." A dyna ydyw sancteiddiad yn ol yr Epistol, rhoi dyn ar dir i fyned i mewn i'r cysegr, hawl i ddal cymundeb â Duw. Y mae'r Principal Edwards a'r Principal Rees yn unair ar hyn.
Fel y dywed Mr. Rees, peth crefyddol, yn hytrach na moesol, ydyw'r sancteiddio hwn. Yn wir, fe esbonnir y peth gan yr Awdur ei hun. Y mae ganddo ddefod yn ei Epistol, wrth ddechreu cyfran newydd, o grynhoi neges y gyfran o'r blaen mewn ychydig eiriau. Yn awr fe gytunir fod cyfran newydd yn dechreu yng nghanol y ddegfed bennod, ac yn unol a'i arfer fe ddywed wrthym beth sydd wedi bod ganddo. "Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i'r cysegr trwy waed Iesu, ar hyd ffordd newydd a bywiol yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy y llen, sef ei gnawd ef, a bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw, nesawn a chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau'n calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi'n corff â dwfr glân."[1] Y mae'r gwaed wedi ei dywallt: defnyddiwch ef. Taenellwch ef ar y gydwybod halogedig. Ymddengys fod rhyddid i fyned i mewn i'r cysegr yn golygu rhyddid i areithio, rhyddid llafar o flaen y fainc. Yr ydys wedi agoryd y llys; ewch chwithau i mewn, a dechreuwch ddeud eich neges. Dyma'r peth yr hiraethai Job am dano wedi ei gael. "O na wyddwn pa le y cawn ef, fel y deuwn at ei eisteddfa ef. Trefnwn fy mater ger ei fron ef, a llannwn fy ngenau â rhesymau. Mynnwn wybod a pha eiriau y'm hatebai, a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf." Weithian y mae'r Duw Goruchaf yn dywedyd wrth y truan euog, fel y dywedodd Agripa wrth Paul, "Y mae cennad i ti ddywedyd trosot dy hun."
- ↑ Heb. x. 19—22.