Bellach y mae pob peth crefydd yn troi o amgylch y Groes. Os oedd yr Iddew wedi cyfnewid crefydd rwysgfawr am grefydd blaen, os yw crefydd yng Nghrist Iesu wedi ei hunoli a'i symlhau, ni olygai hynny ddim fod y grefydd syml yn grefydd dlawd. "Y mae gennym ni allor." Cwynai'r Iddewon Crediniol, debyg, eu bod wedi eu hamddifadu o ordinhadau crefydd, nad oedd ganddynt mwyach ddim o'r moddion cyffredin i feithrin eu bywyd ysbrydol pethau sy'n perthyn i bob crefydd ar y ddaear ond hon. "Na," meddai'r Apostol, y mae gennym ni allor, o'r hon nid oes awdurdod i'r rhai sydd yn gwasanaethu'r tabernacl i fwyta." "Nid yn unig y mae gennym ni ordinhadau cyfwerth a'r pethau a roisoch heibio; y mae gennym ni rywbeth na feddai'r hen grefydd mo hono, hawl i fwyta o allor y pech-aberth. Ni feddai'r hen grefydd mo hynny." "Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i'r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i'r gwersyll." Ond y mae'r grefydd newydd yn caniatau bwyta o'r pech-aberth. Y groes oedd yr allor; a'r peth a alwem ni yn foddion gras yw bwyta o'r aberth. Gennym ni y mae'r breintiau crefyddol. Y mae braint y werin dan y Testament Newydd yn gyfoethocach na braint yr offeiriad a'r archoffeiriad dan yr Hen. Y gwahaniaeth i gyd yw, fod yr ordinhadau wedi eu symlhau trwy wneuthur y groes yn ganolbwynt iddynt. Dau air mawr crefydd weithian. ydyw "Ato ef" a "Thrwyddo ef." "Am hynny awn ato ef o'r tu allan i'r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef." "Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i'w enw ef. Ond gwneuthur daioni a chyfrannu nac anghofiwch, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw."[1]
- ↑ Heb. xiii. 10—16.