rodd am y groes ydyw'r syniad offeiriadol am y sacramentau. Unwaith y dywedoch chwi fod y cymun yn offrwm yn yr un ystyr ag y mae'r groes, y mae lle neilltuol y groes mewn Crefydd wedi mynd. Dechreuodd y syniad offeiriadol yn ddigon diniwed, yn yr arfer briodol ac Ysgrythyrol o gyffelybu'r cymun i aberth moliant; ond yn raddol collwyd y gwahaniaeth rhwng aberth moliant ac aberth cymod, nes myned dynion bob yn ychydig i dybied, nad oedd dim yn aberth y groes nas ail-adroddid yn y sacrament. Daeth yr Eglwys i fodloni ar y syniad cyffredinol bod rhyw rinwedd gwyrthiol yn angau'r groes, a'i fod ef trwy'r cymun bendigaid rywsut yn troi yn iechydwriaeth i'r bobl. Cadwyd y peth, ond cuddiwyd ei ystyr.
Ond os yw profiad heb athrawiaeth yn dda, y mae profiad gydag athrawiaeth yn well. Yr oedd hynny a wyddai Apolos cyn i Briscilla ac Acwila gael gafael arno, yn burion at bwrpas ei brofiad personol ef ei hun; ond yr oedd eisiau dysgu iddo ffordd Duw yn fanylach er mwyn ei wneuthur ef yn athro i eraill. Un o nodweddion cynhennid dyn fel creadur meddylgar yw bod raid iddo gael enwau ar bethau. Dyma'r anrhydedd a roes y Creawdwr arno wedi ei greu, dwyn y creaduriaid ato i weled pa enwau a roddai efe iddynt hwy; "a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef." Ac yn y man rhaid i'r adeg i'r pynciau mawr sydd wedi bod yn brofiad i ddynion gael eu henwau; ac y mae'r defnydd y gall dyn ei wneuthur o'i brofiadau ar ol cael enwau arnynt yn ddeg cymaint ag a wnâi efe ohonynt o'r blaen. Gyda golwg ar athrawiaeth yr Iawn, Anselm a wnaeth y gwaith yna yn hanes Eglwys y Gorllewin, fel y gwnaeth Lewis Edwards o'r Bala ef yn Eglwysi Cymru, nid am fod Anselm nag Edwards wedi dywedyd y gair diweddaf ar y pwnc, ond am eu bod wedi gorfodi'r Eglwys i wynebu'r anhawsterau yn deg. Y Dr. Edwards yn wir a fuasai'r diweddaf o