bawb i fynnu cyfrif bod unrhyw gwestiwn diwinyddol wedi ei gau. Yr oedd ei feddwl yn agored bron hyd ddiwedd ei oes, i ail-ystyried cwestiynau yr ysgrifenasai efo arnynt ers deng mlynedd ar hugain. Ond pa un bynnag a gytunwn ni ag ef ai na wnawn, iddo ef y perthyn y clod o osod y cwestiwn, cyn belled ag yr oedd a fynnai Cymru â'r cwestiwn, ar dir teg; gosod cwestiwn ar dir teg ydyw hanner y gamp at gael atebiad iddo. Cais y penodau nesaf fydd egluro'r berthynas rhwng y groes a bendithion y prynedigaeth, neu â rhai o honynt. Ac er mwyn hynny, yn hytrach nag amcanu bod yn rhy gynhwysfawr, gwell fydd ymdroi tipyn mwy gyda'r pethau pennaf ac amlycaf. Yn awr fe gytunir ar bob llaw mai un fendith fawr, sylfaenol, sydd wedi ei chysylltu ag angau'r groes ydyw maddeuant; ac y mae pawb yn unair hefyd fod maddeuant, sut bynnag yr esboniant ef, yn rhan hanfodol o'r efengyl. Y mae maddeuant pechodau yn un o bynciau Credo'r Apostolion, er na ddywedir yno sut y mae maddeuant a'r groes i'w cysylltu. Ac am y bobl, sydd o ddyddiau'r Sosiniaid hyd yn awr yn esbonio maddeuant mewn dull sydd bron yr un peth a'i esbonio fo i ffwrdd, y maent hwythau, mewn enw beth bynnag, yn rhoi lle pur fawr i faddeuant.
PENNOD II.
YR IAWN YN ELFEN DRAGWYDDOL YN NUW.
GAN y cytunir bod maddeuant trwy waed y groes yn un o bynciau eglur y cyfamod newydd, ymofyn yr ydym ym mha ystyr y mae hyn yn wir. A chan fod rhan o'r atebiad yn bwnc ag y mae'r Eglwys heddyw yn anghytun arno, cyfleus fydd dechreu gyda'r rhan