arall, lle y mae'r mwyafrif o athrawon Cred yn lled unair. Wrth ddywedyd eu bod yn unair ni feddylir eu bod felly hyd at fanylion, ond eu bod felly ar linellau cyffredinol yr athrawiaeth. Y mae diwinyddion o bob ysgol—y rhai a gred mewn Iawn fel sail cymod, a'r rhai nad addefant ond Iawn i ddysgu dynionbawb fel ei gilydd yn cydnabod bod yr Iawn yn ddatguddiad. Cytunant yn gyffredinol hefyd. ar y cwestiwn, pa beth y mae'r Iawn yn ei ddatguddio, datguddio cariad Duw, a chariad Duw yn maddeu i bechadur. Cytunant oll, ond odid, fod aberth Iesu Grist yn selio maddeuant, yn rhyw fath o sacrament neu wystl o bardwn y Duw mawr; a diau y credai y rhan fwyaf, a'r rheini y rhai goreu yn eu plith, ragor na hyn, sef bod yn y groes ryw ddatguddiad o'r hyn y mae maddeuant yn ei olygu i'r Barnwr ac i'r troseddwr. Rhyw dair gwedd a gymerwn ni i'r mater yn y bennod hon a'r ddwy nesaf, y cymod yn Nuw, yng ngwaith Duw, ac yng Nghrist; ac yna fe amcenir, wrth derfynu'r rhan hon o'r ymdriniaeth, ymholi beth yw ystyr maddeuant yng ngoleuni'r Groes.
Ein pwnc cyntaf gan hynny fydd, yr Iawn yn elfen dragwyddol yn y Duwdod. Pwy bynnag a ddysgo fod Duw yn rhoi maddeuant i ni trwy Grist Iesu, mewn ystyr nas gall ei roi trwy neb arall, fe ddylai gredu fod yr Iesu'n Fab Duw mewn ystyr nad oes neb felly ond efo. Cymerir hynny yn ganiataol. Fe gymerir yn ganiataol hefyd, mai'r Person ydyw'r Iawn, y Person yn rhinwedd rhyw brofiadau yr aeth drwyddynt yn wir, ond nid y gwaith na'r dioddefaint ar wahân i'r Person.
Dywedir bod y drychfeddwl yma gan rai o'r Tadau Groegaidd. A pha adleisiau sydd ohono ar hyd yr oesau nis gwn; ond y gŵr a'i cynefinodd ef fwyaf yn niwinyddiaeth Cymru, yn ddi-ddadl, oedd y Dr. Lewis Edwards. Fel hyn y dywed efo: "Y mae y person