yn y weithred; ac am hynny, y mae haeddiant y weithred yn aros yn y person. . . 'Efe yw yr Iawn': nid yr hyn a wnaeth yn unig; ond Efe ei hun; ac am hynny, nid Efe oedd yr Iawn, a ddywedir, ond 'Efe yw yr lawn.' Yr oedd yn rhaid i dragwyddoldeb ac amser gyd-gyfarfod er mwyn cael trefn i achub dyn; yr oedd yn rhaid cael person tragwyddol o fewn terfyn gweithred amserol i fod yn Iawn."[1] Dadlennu'r gwirionedd hwn oedd un o gymwynasau mawr y Doctor i ddiwinyddiaeth ei genedl. Nid yw'n hollol eglur a oedd efe yn cyfrif fod ystyr yr hyn a wnaed ar Galfaria yn ymestyn yn ol yn gystal ag ymlaen. Gellid meddwl wrth yr ymadrodd "person tragwyddol" ei fod. Bid a fynno, dyna'r fel yr eglurir y pwnc gan amryw ddysgawdwyr eraill, megis Bushnell, Thomas Hill Green, Fairbairn, a'r Dr. Forsyth. Yr unig ddiwinydd mawr sydd, os nad yn gwrthod y syniad, yn gwneud yn o fychan ohono, yn yr oes hon, yw'r Dr. Denney.
Ond atolwg, a ydyw'r drychfeddwl i'w gael yn deg yn y Testament Newydd? Yr wyf yn credu yn bur bendant ei fod. Y mae'r adnod a grybwyllwyd o Epistol Cyntaf Ioan yn bur glir o'i blaid ef; a cheir yn ysgrifeniadau Ioan awgrymiadau eraill i'r un cyfeiriad. Y mae'r pregethau yng Nghapernaum ar "Fara'r Bywyd" yn fwy nag awgrym, gan y dysgir bod yr Iesu trwy ei aberth yn ei roddi ei hun yn fwyd ac yn ddiod i ddynion. Rhaid gan hynny fod ystyr vr aberth yn aros yn rhinwedd ac yn rym yn y person. Fe wrthodir yr adnod o'r Datguddiad, am "yr Oen a laddwyd er seiliad y byd," fel cyfieithiad annheg; ond er na ellir pwyso ar honno, y mae digon yn Efengyl ac Epistol Ioan ar y pwnc. "Wele oen Duw,' aberth darparedig Duw dros bechod y byd, nid aberth wedi ei gynnyg mewn cyfwng poenus i ryddhau'r
- ↑ Y Traethodau Diwinyddol, 53-55