Dwyfol gariad o'i anhawster, ond hen ddarpariaeth y cariad hwnnw'i hunan. "Er eu mwyn hwy yr wyf yr fy sancteiddio fy hun." Nid oedd yr offrymiad ar y pren ond coron a chyflawniad rhyw ymgysegru oedd yn bod o'r blaen.
Yn adroddiad yr Efengylau hefyd o hanes sefydlu Swper yr Arglwydd y mae'r gair tywelltir," "yr hwn a dywelltir dros lawer," yn yr amser presennol. Y mae'r cyfieithiad Cymraeg yn Luc yn nodedig o ffodus: "Y cwpan hwn yw'r Testament Newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch." Ni synnai dyn ddim nad dyna fydd geiriau gwasanaeth cymun y gwin newydd tu fewn i'r llen: "yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch." Y mac teilyngdod a rhinwedd yr aberth yn bod cyn ei offrymu mewn gweithred, ac yn para ar ol hynny yn oes oesoedd.
Myn Green mai dyma syniad llywodraethol Paul am yr aberth mawr. "Yr oedd Duw ynddo ef (yng Nghrist), a pha beth bynnag a wnâi efe Duw a'i gwnâi. Rhaid ynte mai rhyw farw i fyw, rhyw fyw trwy farw, ydyw hanfod natur Duw. Gweithred ydyw, er darfod ei dangos unwaith am byth yng nghroes Crist ac yn ei atgyfodiad, oedd er hynny yn dragwyddol—yn weithred Duw ei hun."[1] Dyna ddysgeidiaeth Paul fel y mae Green yn ei deall hi; ond os yw Green yn rhy bendant, ac os ydyw Paul yn rhoi mwy o bwys nag a ddywedir yma ar ffactau mawr y prynedigaeth, eto nid fel ffactau noethion yr edrych efe arnynt, namyn fel pethau yn datguddio Duw, ac fel pethau i ddynion gyfranogi ohonynt; oblegid yn ol Paul yn sicr rhaid i ninnau farw i bechod yng Nghrist a chyfodi i fuchedd newydd gydag ef. Duw sydd, yn ol dysgeidiaeth yr Apostol, yn cymodi'r byd yng Nghrist, a Duw sydd ynddo ef yn condemnio.
- ↑ Works of T. H. Green. Vol. III. P. 233. Rhuf. vi. 1, 15; 2 Cor. v. 19; Rhuf. viii. 3; 1 loan ii. 1—2; Rhuf. viii. 34; Heb. vii. 25; 1 Pedr i. 21.