yn y weinidogaeth ni ddefnyddiai efe byth mo'r gair "Datblygiad" heb roi cic iddo,—weithiau brawddeg o gondemniad, dro arall dim ond rhyw air, megis Datblygiad chwedl chithau." Fel y Dr. Edwards o'i flaen, gŵr yr oedd Mr. Roberts yn hyn yn dra chyffelyb iddo, aeth ym mhellach y ffordd yma wrth fynd yn hŷn. Ceir y gair "Bodolaeth" rai troion yn Nhraethodau'r Doctor; ac nid oedd dim gair y byddai efe'n ddicach wrtho yn niwedd ei oes na "Bodolaeth." Felly Roberts,-y mae'r gair "Bydysawd" mewn erthygl o'i waith ar y Dr. Dunkan yn Nhraethodydd 1873, gair na fuasai'r awdwr yn blino'i erlid yn y pymtheng mlynedd diweddaf dyweder. Ond oddieithr rhyw air neu ddau fel yna, y mae Cymraeg y cyfnod cyntaf hwnnw'n dwyn llawer o'r un nodwedd a'r Cymraeg diweddarach o'i eiddo, sydd erbyn hyn yn bur adnabyddus fel Cymraeg adroddiadau di-ail y Genhadaeth Gartrefol. Yr oedd yr un hoewder, yr un troi a throsi, yr un tarawiad miniog, a gwell na'r cwbl, ag arfer un o'i hoff eiriau ef ei hun, yr un naws yn y naill a'r llall. Y mae yr arddull ar ei phen ei hun wrth reswm, ac yn un a allai fynd yn arddull ddyrys yn llaw efelychwr; ond hi wasanaethai ei diben yn berffaith yn ei law ef. Tybed fod rhywun tebyg iddo am wneud adroddiad difyr o bwyllgor, neu gyfeisteddfod, fel y buasai efe'n dewis dweyd. Gwrandewid arno ef yn darllen peth felly, yn frysiog ond yn eglur, gan sefyll y rhan amlaf i gymryd ei anadl ryw air neu ddau heibio i'r full stop; a theimlai cymanfa gyfan eu bod wedi cael gwledd. Yr oedd rhyw gynnwrf, rhyw fywyd, rhyw symudiad gwisgi yn ei Gymraeg ef hyd yn oed wrth drin pethau sychion. Ni ddywedai fod y rhain yn bresennol, ond eu bod "yno," neu "yr oedd ynghyd y rhain a'r rhain." Ni ddywedai "pan ddaethant" yn aml iawn, ond yn hytrach rhyw ymadrodd mwy Cymroaidd, megis "ac wedi eu dyfod."
Er bod yn weinidog ar Eglwys Gymraeg, a bwrw