Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/210

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pechod yn y cnawd. A lle bynnag y dysgir neu y tybir yr eiriolaeth, gan Paul neu gan Ioan, neu yn yr Epistol at yr Hebreaid, yno hefyd fe ddysgir neu fe dybir bod haeddiant yr aberth yn aros yn y person. Ac y mae'n debyg mai dyna ystyr ei offrymu ei hunan trwy ysbryd tragwyddol, ei offrymu ei hun, fel y dywed Thomas Charles Edwards, yng ngrym personoliaeth dragwyddol; a dyna'n sicr a feddylir wrth ddywedyd bod Crist yn offeiriad yn ol nerth bywyd annherfynol.

Ond yr un sydd wedi dysgu'r gwirionedd hwn groewaf o neb yw'r Apostol Pedr. Os cafodd Paul achos i wrthwynebu Pedr yn ei wyneb, fe dalodd Pedr yn ardderchog am y wers a roed iddo; oblegid ni chafodd Paul erioed well dehonglwr na Phedr. Ac ar y wedd yma i athrawiaeth y cymod y mae Pedr yn glir dros ben—perthynas yr Iawn â bywyd tragwyddol Duw. "Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw."

Esgeuluso'r athrawiaeth yma, sy mor eglur yn y Testament Newydd, ac a dderbynnir mor gyffredinol gan eglwysi Cred, a barodd i lawer fethu dygymod ag unrhyw syniad am Iawn gwrthrychol. Ond fe ddylid cofio nad yw'r anhawster a deimlir gan lawer yn gyfyngedig i'r aberth, llawer llai i'r dioddefaint oedd yn rhan o'r aberth. Anhawster ydyw sy'n perthyn i'r holl athrawiaeth o gyfryngdod Crist. Y mae'r cwestiwn yn ddyfnach na gofyn sut yr oedd dichon i ddioddefaint un arall ein hachub ni. Y mae yn cynnwys gofyn sut yr oedd modd i neb ein hachub ni heb law nyni'n hunain. Ac nid oedd modd chwaith, heb fod ein hachubwr yn fwy nag un ohonom ni. A dyna'r efengyl, fod Duw wedi dyfod i mewn i'n byd ni yn Iesu Grist. Holl actau mawr y prynedigaeth actau Duw oeddynt yr ymgnawdoliad, a'r temtiad, a'r gwyrthiau, a'r pregethu, a'r marw rhyfedd, a'r atgyfodi o'r bedd. Yr oedd Crist Iesu ynddynt oll yn Grist gallu Duw a doethineb Duw. Am ddeubeth