dioddef eu drygfyd a'u poenau hwy, ac yn cymryd arno'i hun faich eu hanhwylderau." "Y mae croes yn Nuw cyn bod y pren yn weledig ar Galfaria." "Y mae Dwyfol gariad, od oes arno awydd maddeu i'r euog, yn rhwym o ddioddef wrth wneud hynny. Dyma bris maddeuant i'r sawl a'i rhoddo." Fe atebodd y Dr. Dale ryw bregeth a glywsai neu a welsai, mewn pregeth o'i eiddo'i hun. Dadl y pregethwr arall ydoedd, nad oedd dim Iawn yn Nameg y Mab Afradlon. Y pechadur ei hun, meddai, sydd yn dwyn canlyniadau'i fai. Ac ateb Dale oedd, nad-e ddim. Nid oedd y troseddwr ei hun ddim yn dioddef holl ganlyniadau'i fai. Ac erbyn meddwl, ni ddioddefodd y Mab Afradlon mo'r cwbl o ffrwyth ei ddrygioni. Yn y fan yna y gadawodd Dale y mater y tro hwnnw; ond yr oedd dyn yn mynd i ofyn er ei waethaf—ar bwy y disgynnodd canlyniadau buchedd wyllt y troseddwr heb law arno ef? Ac ni all fod ond un ateb: y tad a faddeuodd iddo a ddioddefodd fwyaf. Efo a lawenychodd fwyaf hefyd; ond llawenydd yn costio dioddef ydoedd y llawenydd hwnnw. Yr oedd yno un na fynnai brofi llawenydd y teulu, y mab hynaf. Pan glywsai gynghanedd a dawnsio, efe a ddigiodd ac nid âi i mewn. Ond y rheswm na chyfranogodd efo o'r llawenydd oedd ei fod yn llawenydd rhy ddrud ganddo. Yr oedd yn ormod o glwyf i'w falchter a'i eiddigedd. Ni thalai fo mo bris y llawenydd o groesawu ei frawd. Ac os aeth ef i mewn hefyd, ar ôl i'w dad gyfymliw ag ef, fe aeth i fewn drwy groeshoelio'i falchter. Ond y tad a arweiniai yn y dioddef ac yn y llawenydd. Efe a aeth i gyfarfod â'r bachgen drwg, a'i gusanu yn ei garpiau a'i gywilydd. Efo a wnaeth y bachgen yn werth gan y gweinidogion ymgrymu iddo. Y mae'r Iawn felly yn elfen yn nhadolaeth Duw. Ni allai ddatguddio'i gariad heb ei ddatguddio fel cariad yn dioddef. Yr oedd y Tad yn gystal a'r Mab yn gyfrannog yn y dioddef. Fel y dywed y Dr.
Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/212
Prawfddarllenwyd y dudalen hon