Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/214

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymaith yn fy ol i, Satan, am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion."'[1] Yr oedd y dioddef yma'n un o bethau Duw. Dieithrwch i bethau Duw a barai bod neb mewn tywyllwch yng nghylch hwn.

Fe allai y gofynnir, Oni fuasai awdurdod y Brenin Mawr yn ddigon i ddiddymu'r pellter rhwng y pechadur ag ef, heb i hynny olygu dim dioddef o du Duw? Rhaid i ni ateb mai ei gymeriad ef oedd ar y ffordd. Yn wir meddwl am Dduw fel awdurdod noeth a barodd i bobl feddwl bod peth felly yn bosibl. Cwynir bod diwinyddion uniongred yn rhy chwannog i ymresymu oddi wrth benarglwyddiaeth y Duw mawr; ond y mae'r un clefyd ysywaeth ar yr hereticiaid hwythau. Sôn am benarglwyddiaeth yn systemau'r hen ddiwinyddion! y mae mwy o benarglwyddiaeth yn y fan yma nag oedd yn y rheini oll gyda'i gilydd. Ni fedr cymeriad mewn Duw na dyn ddim torri clymau yn lle'u datod hwy. A phan soniom am awdurdod yr Anfeidrol, nid awdurdod ar wahân i'w garictor ef ydyw hi. "Nis gall efe ei wadu ei hun." Ni allasai, a bod y peth ydyw, faddeu heb ddioddef. Dyna agwedd wastadol ac angenrheidiol cariad yn ymwneud â'r annheilwng. Ac fel na allai awdurdod noeth symud yr anhawster, felly hefyd nid deddf noeth, megis peth yn hanfodi ar wahân i Dduw sydd yn creu'r anhawster, namyn deddf ei natur ef ei hun.

Y mae'r golygiad yma'n ein dwyn ni ris ym mhellach, gan hynny, na'r dywediad syml fod angau'r groes yn datguddio cariad Duw, neu os mynnir, y mae mwy yn y dywediad yna nag y byddys yn meddwl wrth ei adrodd. Gallai datguddio cariad olygu datguddio bod Duw yn ein caru ni, heb ddim mwy na hynny; ond nid hynny'n unig a ddatguddir yn y Groes. Yma fe ddatguddir pa ryw beth ydyw'r

  1. Marc viii. 33.