cariad, a pha sut y mae ef, yn ei hanfod dragwyddol, yn gweithredu. "Yn hyn yr adnabuom gariad," nid cariad Duw a ddywedir, "yn hyn yr adnabuom gariad oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni."[1] Yma y datguddiodd cariad ei anian. Yr oedd ynddo elfen, felly, nas gellid ei datguddio'n briodol yn ein byd ni ond trwy farw. Dyma'r gwaith addas, naturiol, i'r cariad tragwyddol wedi ei ddyfod yma, a'i ddyfod yma i waredu pechadur—dioddef a marw. Yr oedd rhyw wedd ar fywyd tragwyddol y Duwdod mawr, nad oedd dim arall, mewn byd fel hwn, yn ddatguddiad boddhaol ohoni. Yma y cafodd y byd gynllun o gariad. Yma yr adnabuwyd cariad, y gwybuwyd sut y dylai cariad weithio. Edrych beth a wnaeth cariad Duw, dyna a ddengys i ni beth a ddylai cariad ei wneuthur mewn dynion; ac am hynny'r ychwanega'r apostol: "A ninnau a ddylem ddodi'n heinioes dros y brodyr." Ond ar y groes yr adnabuwyd cariad, y gwelwyd pa beth oedd yn naturiol iddo ac yn deilwng ohono. Y mae'r groes, beth bynnag arall ydyw hi, yn ddatguddiad o'r agwedd ddioddefus sydd ar gariad Duw yn dragywydd."
Y mae'r un peth yn wir am yr Atgyfodiad. Datguddiad ydyw'r trydydd dydd hefyd o rywbeth sy'n bod erioed yn y Duwdod. "Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw."[2] Eglur yw y dyry Pedr, fel ei gyd-apostolion, bwys mawr ar yr Atgyfodiad fel ffact. Efo oedd un o'r prif dystion iddi. Y mae Ceffas ar restr y tystion gan Paul yn y bennod fawr ar yr atgyfodiad. Yr oedd yr atgyfodiad yn gymaint peth yn niwinyddiaeth yr oes Apostolaidd a'r marw ar Galfaria, o'r ddau, gallech feddwl wrth ambell i adnod, yn fwy peth. "Crist yw yr