hwn a fu farw, ïe, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd"; fel pe buasai cyfodi o'r bedd yn fwy angenrheidiol at ein diogelu ni na marw drosom. Ond y gwir ydyw bod y marw a'r codi yn ddwy ochr i'r un gwaith. Mewn amser dilyn ei gilydd y maent; ond o ran eu hystyr dwy wedd i'r un peth ydynt. Y mae'r ddau ddigwyddiad fel ei gilydd yn hanfodol i'n hiechydwriaeth ni. "Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i'n cyfiawnhau ni."[1] Amlwg yw yr ystyrid yr atgyfodi yn llawn mor hanfodol i'r gwaith oedd i'n cyfiawnhau ni ag oedd tywallt gwaed ar y pren. Mi wn y ceisir esbonio'r adnod yn aml trwy ddeud mai arwydd o gymeradwyaeth Duw i waith y prynedigaeth yw'r atgyfodiad. Nid wyf yn cofio am un gair o sail Ysgrythyrol i'r golygiad yna; ond beth bynnag am hynny, nid dyna ystyr yr adnod hon. Yr oedd eisiau iddo godi o'r bedd, nid er mwyn dangos bod ei waith ef yn gymeradwy. Ni fuasai ei waith ddim yn gymeradwy nac yn gyflawn heb yr atgyfodi. "Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes fel y cymerwyf hi drachefn." Yn wir nid dodi einioes sydd yn rhyngu bodd Duw—difrod ydyw hynny onid oes rhywbeth arall i'w ganlyn—ond dodi einioes er mwyn ei chymryd hi drachefn. Pan ofynnodd Moses i'r Brenin mawr ei ddileu ef o'i lyfr er mwyn y genedl, ni chafodd ei ddymuniad. Pan aeth Abraham i ben Moriah i aberthu ei fab Isaac, fe waharddwyd iddo, er ei fod ef wedi rhyngu bodd Duw wrth gynnyg. Paham y gwarafunodd Duw i ddynion wneuthur peth y caniataodd, ac y gorchmynnodd i'w Fab uniganedig ei gyflawni? Am y buasai eu haberth hwy yn fethiant —ni chawsid mo'i werth llawn ohono—lle yr oedd aberth yr Iesu yn siwr o lwyddo yn ei amcan. Yr oedd y bywyd a roed i lawr yn siwr o ddyfod i fyny
- ↑ Rhuf iv.25