yn ei gyflawnder, wedi helaethu ei derfynau. Nid oedd dim difrod, dim afradu, yn ei aberth ef. Ni fyddai fo byth yn sôn am ei angau, heb sôn hefyd am ei atgyfodiad. A'r trydydd dydd atgyfodi" ydyw byrdwn ei ddysgeidiaeth yn y misoedd olaf hynny gyda'r disgyblion. Ac wrth annog dynion i hunanymwadu, y mae cael yn gystal a cholli bob amser yn rhan o'r gwaith. "Pwy bynnag a gollo'i einioes, hwnnw a'i ceidw hi."[1] Pa foddhad i Dduw fyddai colled fel colled? Y peth a'i boddia ef yw colli er mwyn cadw. Felly y mae'r atgyfodiad yn rhan o'r aberth.
Ond wrth ei ystyried felly yr ydys yn ei wneuthur yn fwy na ffact noeth wedi bod a darfod, ac yn gorfod derbyn golygiad Pedr, mai rhywbeth tu cefn i'r ffact sydd yn achub. "Yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant (at y pwrpas yma y mae'r atgyfodiad a'r gogoneddu yn y nef yn un) fel y byddai'ch ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw." Y mae rhywbeth yn Nuw erioed sy'n cyfateb i atgyfodiad y Mab. Yr ydych trwy gredu ffact yr atgyfodiad fore'r trydydd dydd yn credu yn Nuw. Bellach yr ydym yn dechreu deall paham y gesyd Paul yntau y fath bwys ar yr atgyfodiad. "Os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau",[2] hynny yw, yr ydych yn euog eto, heb eich rhyddhau oddi wrthynt. Yn awr pa ystyr fuasai i ddeud fel yna, pe fel digwyddiad noeth yr edrychasid ar y peth? Na, yr ystyr yn ddiau yw, os ydyw'r bywyd a gollwyd heb ei gael yn ôl, heb ei gymryd drachefn, y mae'r gwaith heb ei orffen—nid heb ei gymeradwyo ddim, ond heb ei orffen. Nid yw aberth y groes ddim yn gyflawn heb yr atgyfodiad.
Ac y mae'r gorffen yma ar waith y prynedigaeth, nid wedi digwydd am unwaith yn braw o ddigonol-