Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/218

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rwydd yr Iawn a dalwyd, ond yn bod erioed, ac yn bod byth bythoedd yn Nuw. Od yw ei gariad tragwyddol ef yn gariad dan ei glwyfau, nid yw hynny ond un wedd i'r pwnc; y mae ar yr un pryd yn gariad dan ei goron. Y mae'r fuddugoliaeth mor dragwyddol â'r aberth. Os ydyw Duw, am ei fod yn Dduw'r cariad, yn gwybod am ryw brofiad nad oes dim yn ein byd ni mor debyg iddo â marw, nid marw heb ei orchfygu ydyw'r marw hwnnw, ond marw sydd yn ris ym mhrofiad bywyd. Y bywyd uchaf mewn bod byw trwy farw ydyw. Ond nid oes dim ohono'n mynd yn ofer ac yn afrad trwy ymaberthu. Y mae bywyd o aberth yn fywyd o ogoniant. Rhaid i ddynion, a rhaid i Dduw dan amodau'n byd ni, ddioddef i ddechreu, a dyfod i fyny wedyn; ond yn ei fywyd tragwyddol ef y mae'r ddau yn cymryd lle ar unwaith. Y mae ei fywyd yn ymgyfoethogi trwy ddioddef. Wrth gyfyngu arno'i hunan, a dodi ei gariad mawr dan y straen o faddeu i droseddwr, felly y mae efe yn ei gyflawni ei hun. Felly y mae yn dwyn ei ewyllys i ben. Y peth drutaf iddo, wedi'r cwbl, ydyw'r peth hyfrytaf ganddo. Dyma'r fel y mae Atgyfodiad Crist yn troi'n fywyd i ni—yn gyfiawnhad i ni yn ôl Paul, ac yn adenedigaeth yn ôl Pedr. Pe na buasai'r atgyfodiad hwn ond peth wedi bod a darfod, pa rinwedd a fuasai ynddo i'n hatgenhedlu ni i obaith bywiol?

Ar y tir yma hefyd y gallwn ni ddeall y berthynas rhwng atgyfodiad Crist ac atgyfodiad y saint. Yr oedd ef yn flaenffrwyth y rhai a hunasant, yn rhan ac yn ernes o'r cynhaeaf mawr, gan nad peth a fu ac a ddarfu rywdro yng Ngwlad Canaan oedd ei gyfodi ef, ond rhywbeth ag y mae ei ystyr yn bod eto. Peth ydyw sydd, er bod yn ddigwyddiad mewn amser, yn fwy na digwyddiad. Grym ydyw sydd ar waith o hyd. Y grym hwn sydd ar waith yn atgenhedliad y saint; obegid y maent yn credu yn ôl gweithrediad nerth ei