Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei oes gyhoeddus mewn ardal drwyadl Gymreig, daeth yn bregethwr Saesneg cymeradwy dros ben. Deuai yr un coethder syml i'r golwg yn hyn eto, yr un manylwch greddfol mewn arfer pob gair yn llygad ei ystyr. Y mae ei hwylustod a'i ystwythter yn y Saesneg wedi synnu hyd yn oed y rhai oedd gydag ef yn y Bala. Llawer a gyraeddasant dir uchel mewn gwybodaeth dan anfanteision; ond gan ychydig iawn o ysgolheigion ac ysgolheigion gwych, y ceir y feistrolaeth lwyr honno ar ei ddysg a welid ynddo ef. Yr oedd gwybodaeth Thomas Roberts yn eang a manwl; eithr nid gwybodaeth i beri anhawster iddo ydoedd, nid gwybodaeth a orweddai blith draphlith a'i feddyliau ef ei hun yn dalpiau di-dawdd; nag-e, gwybodaeth nad oes dim gwell gair i'w disgrifio na'i air ef ei hunan, gwybodaeth oedd yn hyffurf yn ei law fel y clai yn llaw'r crochennydd.

Bwriodd bum mlynedd helaeth yn yr Athrofa; ac ymadawodd yn Ebrill 1864. Ei le cyntaf oedd Colwyn, lle y gosodwyd ef i lafurio gan Gyfarfod Misol Sir Ddimbech. Gwnaeth lawer o gyfeillion yn y cylch; ac er nas gwelai hwynt ond pur anfynych yn ddiweddar, llonai drwyddo wrth weled ambell un o honynt neu dderbyn cenadwri oddi wrthynt. Rhaid, gyd a llaw, fod ganddo gryn ddawn i gofio wynebau yn gystal a llyfrau. Tra bu Mr. Roberts yn Llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd, yn 1893, cafodd aml i ŵr cymharol ddi-son-am-dano ym mysg y cynrychiolwyr ei alw i gymryd rhan yn y gwaith. Y mae dau fath o lywydd da. Y mae digonedd o fathau o rai sal. Ond dau fath o rai da, un a fedr lesteirio i frodyr siaradus siarad gormod, ac un arall a fedr dynnu rhai tawedog, y byddai'n werth eu clywed, i siarad o gwbl. Y mae hon, o'r ddwy, yn fwy camp na'r llall. Un o'r math yma oedd Thomas Roberts. Galwai rai y pryd hwnnw wrth eu henwau, ag yr oedd dyn yn tueddu i dybied nas gallai fod wedi eu gweled fwy nag unwaith neu