eisoes gorff o addysg ar y llinell yma mewn rhyw gylchoedd ym mysg y disgyblion. Buasai'r awgrym a deflir yn rhagymadrodd y Llythyr at yr Hebreaid. yn rhy fyr i fod yn ddealladwy, oni buasai bod y drychfeddwl yn un gweddol gynefin i'r darllenwyr. "Yr hwn, ac efe yn ddisgleiriad ei ogoniant ef, ac yn gyf-argraff ei hanfod ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro'n pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw'r mawredd yn y goruwchleoedd." Buasai'n gofyn dywedyd mwy neu beidio dywedyd cymaint. Yr un ffunud am ragymadrodd Efengyl Ioan, y tebyg yw fod y deunaw adnod yna'n grynhodeb o athrawiaeth nad oedd na newydd na dieithr yn y cylch y bwriedid y llyfr ar ei gyfer. "Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim ar a wnaethpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd; a'r bywyd oedd oleuni dynion. . . . Yr oedd y gwir oleuni, sydd yn goleuo pob dyn, yn dyfod i'r byd." Y mae'n amlwg bod rhai o athrawon yr oes Apostolaidd yn arfer dysgu bod i Fab Duw ei le mewn creadigaeth yn gystal ag mewn prynedigaeth; ac anawdd peidio â meddwl bod Efengyl Ioan yn tynnu darlun cywir wrth briodoli hadau'r ddysgeidiaeth yna i'w Hathro hwy. "Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn; ac yr ydwyf finnau yn gweithio."[1]
Ond yr ysgrythur lle y ceir yr athrawiaeth wedi ei datblygu fwyaf ydyw'r bennod gyntaf o'r Epistol at y Colossiaid. I ba raddau yr oedd a fynnai cyfeiliornadau â naws Gnosticiaeth arnynt â ffurf yr athrawiaeth sydd bwnc heb orffen ei benderfynu. Dylid cofio wrth ddarllen yr esbonwyr fod yr hyn a ddisgrifiant hwy fel Gnosticiaeth yn ddiweddarach dipyn nag amser Paul, ond fod y casgliad a dynnant yn un eithaf teg, nad tŵf undydd unnos oedd y Gnosticiaeth honno pan gawn ni ei hanes hi mewn llyfrau.
- ↑ Ioan v. 17.