Y mae'r Epistol yma hefyd yn mynd ym mhellach o gryn lawer ar y llinell a awgrymir yn "Ioan" a'r "Hebreaid," a'r "Ephesiaid." Y tu allan i'r "Colossiaid," y peth a gawn ni amlycaf yw perthynas creadigaeth â pherson y Mab: yma ni gawn ei pherthynas hi â'i waith ef hefyd. Dyma ddau bwnc mawr y bennod gyntaf ar ôl y rhagymadrodd, Iesu Grist yn sylfaen pob creadigaeth o ran ei berson, ac yn goron pob creadigaeth yng ngwaith y cymod. Er mai'r olaf o'r ddau ydyw'n testun ni, fe dâl i ni fwrw golwg frysiog ar y llall yn ogystal, pe na bâi ond i osod athrawiaeth yr Iawn yn ei pherthynas briodol ag athrawiaeth y Drindod. Fe ofynnir yn aml paham y mae'r Mab yn Waredwr, ac nid y Tad neu yr Ysbryd, heb gofio mai oddiwrth drefn yr iechydwriaeth y cawsom ni'n gwybodaeth am y Drindod fendigaid. Ac yn lle gofyn paham y mae'r Mab yn Brynwr, gofyn a ddylem pa briodolder sy mewn galw Prynwr dynion. yn Fab Duw.
Iesu Grist yn Sylfaen pob Creadigaeth o ran ei Berson.
Nid yr un oedd cwestiynau'r oes Apostolaidd â'r cwestiynau sy'n ein blino ni. Ag arfer cyffelybiaeth Martineau ar fater arall, nid yw'r cwch ganddynt hwy ddim yr un ochr i'r afon â ni; ond y mae yn gwch mor hwylus fel y byddai'n werth mynd trosodd i'w nôl, hynny yw, y mae'n werth i ni geisio deall y cwestiwn oedd yn blino'r oes honno, nid er mwyn y cwestiwn ei hun, ond er mwyn yr atebiad sy gan Paul iddo. Y cwestiwn a flinai bobl feddylgar y pryd hwnnw oedd, Pa fodd y medrodd Duw greu? Yr un un ydoedd a'r cwestiwn a boenai ryw eneth bach a adwaenwn, sydd erbyn hyn yn ferch ifanc. Ei brawd chwech oed oedd yn dangos darluniau Beiblaidd i'w chwaer fach ddwy flwydd yn iau nag ef. "Dyma," meddai fo, "lun Duw yn creu'r byd; ac fe greodd y