byd," meddai'r bychan, "o ddim." Nag-e," meddai'i chwaer bedair oed, "o hono'i hun, nid o ddim."
Dyna'r ymholiad oedd yn blino dysgedigion yn amser Paul. Sut y medrodd Duw greu? Digon gennym ni ei fod wedi creu; ond yr oeddynt hwy yn ymguro yn erbyn y dyrysbwnc anorffen yna; a hwy a ddyfeisiasent atebion goreu y medrent iddo. Sut y medrodd Duw greu, a chreu byd fel a adwaenom ni? Sut y medrodd y tragwyddol berffaith roddi bod i fyd cymysglyd amherffaith fel hwn? Yr ateb oedd, na chreodd ef mo hwn. Y cwbl a greodd ef oedd y creadur cyntaf—creadur mor wych nad oedd yn anair i Dduw ei hunan fod wedi ei greu. Ac yna fe greodd hwnnw un tipyn is nag ef ei hun, a hwnnw un is wedyn, nes dyfod rhyw greadur i fod o'r diwedd, digon islaw Duw i roi bod i'r greadigaeth amherffaith y gwyddom ni amdani. Y gadwyn yna oedd y thronau, yr arglwyddiaethau, y tywysogaethau, a'r awdurdodau, y sonia'r Apostol amdanynt—y cyfryngau oedd gan y Brenin Mawr rhyngddo a natur a mater a dyn rhag llychwino'i fysedd trwy roi bod i'r pethau cyffredin hyn yn ddigyfrwng. Fe ddaeth i lawr o'i fawrhydi unig ar hyd grisiau maith. Dyna gwestiwn y byd oedd y pryd hwnnw: Sut y medrodd Duw greu? Er mwyn ei ateb rhaid oedd cael hyd i rywbeth yr oedd y philosoffyddion yma'n ei gredu. Yr oeddynt yn credu'r Efengyl. "O'r goreu," meddai Paul, "os ydych yn credu'r Efengyl, os ydych yn credu bod Duw wedi ei ddatguddio'i hunan yn natur dyn—mewn natur greedig ac amherffaith, ni ddylai bod dim anhawster i chi gredu ei fod ef wedi creu." Ni pherthyn dim anhawster i'r athrawiaeth ddarfod i Dduw greu pob peth, ond sy'n perthyn i'r athrawiaeth ei fod ef yn achub dynion trwy ddyfod yn un ohonynt. Cymerwch eich safle ar yr iechydwriaeth sydd yng Nghrist, a chi ddeallwch y dirgelwch sy'n perthyn i greadigaeth hefyd. "Gan ddiolch i'r Tad," meddai'r