Apostol, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni; yr hwn a'n gwaredodd ni o feddiant y tywyllwch, ac a'n symudodd ni i deyrnas Mab ei gariad; yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau; yr hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig pob creadigaeth." Nid y creadur cyntaf a feddylir ddim, ond cyntaf—anedig creadigaeth, dechreu teulu yn y Duwdod mawr. Sut y medrodd y Brenin Mawr greu? Wel, yr oedd posibilrwydd creadigaeth ynddo fo er tragwyddoldeb, ac ynddo yn yr un fan a phosibilrwydd achubiaeth ym Mherson y Mab. Yr oedd rhyw wedd ar fywyd y Duwdod a wnâi greu yn beth posibl iddo; ac yr oedd honno'r un wedd yn union ag a wnâi ddatguddiad a phrynedigaeth yn bosibl. Unrhyw syniad am Dduw a'i gwnelo fo, dan enw o'i barchu a'i fawrhau, yn rhy fawr i ddyfod allan o hono'i hun mewn creadigaeth, y mae yn drwyadl anghristnogol, gan y buasai yr un syniad yn ei anghymwyso ef i ddyfod i lawr at ddynion er mwyn eu hachub.
Ond cwestiwn arall sy'n blino'n hoes ni, nid Pa fodd y medrodd Duw greu, ond Pa fodd y medrodd y Duw a greodd bob peth ei ddatguddio'i hunan fel un ohonom ni, a dyfod yn Waredwr inni? Dyna'r cwestiwn yn awr.
Ond os ydyw'r cwestiwn yn un gwahanol, y mae'r un atebiad ag a gyfarfyddai ag anawsterau oes yr Apostol yr un mor gyfaddas i gwestiwn ein hoes. ninnau—gwreiddyn iechydwriaeth a chreadigaeth yn yr un fan—person y tragwyddol Fab yn sylfaen y naill a'r llall. A ydych chwi'n methu gweld sut y gallai Duw ddyfod yn ddyn? Y mae yma anhawster yn ddiau, eithr nid dim ond yr un anhawster ag sydd ynglŷn a gwaith Duw yn creu. Yr un anhawster hanfodol ydyw'r ddau sut y medrodd Duw ddyfod yn ddyn, a sut y medrodd Duw greu o gwbl; oblegid