Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/225

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyfod allan o hono'i hunan mewn datguddiad—ei ddatguddio'i hun mewn peth llai nag ef ei hun oedd pob un o'r ddau. Os medrodd ef wneud y naill heb ei fychanu ei hunan, paham na allasai wneud y llall? Gwedwch chi'r ymgnawdoliad, yr ydych yn cau ar y Duw Mawr yn ei ddistawrwydd. Duw anweledig ydyw, a delw ohono'i hun yn ei fynwes er tragwyddoldeb. Y mae posibilrwydd creadigaeth a phosibilrwydd datguddiad yn gorwedd yn y Duwdod erioed, am fod Duw yn Fab yn gystal a Thad. Y posibilrwydd yna, y medr yna i ddyfod allan ohono'i hun ydoedd cyntaf—anedig pob creadigaeth. Dyna ydyw'r hyn a eilw diwinyddion yn ail berson yn y Drindod, sylfaen gweithrediad yn Nuw—y wedd yna ar fywyd y Brenin Mawr, sy'n rhoi modd iddo ei ddatguddio'i hun mewn natur a gras. Dyna'r Ail Berson yn yr hanfod. Yn yr un fan y mae gwreiddyn creadigaeth a gwreiddyn yr ymgnawdoliad.

Hwyrach y bydd rhai o geidwaid yr athrawiaeth, wrth ddarllen y llinellau hyn, yn barod i ofyn yr hen gwestiwn: A fuasai'r Mab yn ymgnawdoli oni buasai i ddyn fynd yn bechadur? Ni pherthyn i mi geisio ateb y cwestiwn yn y fan hyn; ond y mae hyn o wir, beth bynnag, yn y ddysgeidiaeth a ddaeth i Gymru yma trwy Thomas Charles Edwards, yr oedd medru dyfod yn ddyn yn perthyn i Fab Duw erioed. A ddaethai'r medru yna'n ffact pe na ddaethai pechod i mewn, sydd gwestiwn arall; ond yr oedd y posibilrwydd yno erioed. Os nad oedd, y mae creadigaeth ei hunan yn mynd yn beth anesboniadwy. Nid ydym yn deall yr ymgnawdoliad; ond yr ydym yn ei gredu, fel y credwn aml i beth mawr arall, am na allwn ddeall dim arall yn iawn hebddo. " Ynddo ef," yn y Mab, "y mae pob peth yn cyd—sefyll." Efo o ran ei berson ydyw sylfaen pob creadigaeth.