ddatblygu graddol sydd drwyddi oll: neshau y mae hi at fwriad y Creawdwr. Yn ol Mr. Frederick Shiller o Rydychen, athronydd heb ddim llawer o gydymdeimlad rhyngddo a Chrefydd Efengylaidd fel yr ŷm ni yn ei deall, dyna ydyw ymddatblygiad natur, Duw yn tynnu'r greadigaeth i gymod ag ef ei hun. Cymodi sy'n mynd ymlaen ym mhob man.
Ym mhellach, y mae'r cymodi yma'n beth sy'n cynnwys rhyw fath o aberth hefyd. Cof gennyf glywed John Ogwen Jones yn pregethu ar y "Gronyn Gwenith," ac yn gweld deddf y gronyn gwenith ym mhob man; ac fe wnaeth un sylw na choeliodd braidd neb mo hono ar y pryd. Da yr wyf yn cofio, er nad oeddwn ond bachgen, y collfarnu oedd ar y sylw mewn rhyw weithdy bach drannoeth. Tybied yr wyf weithian y gwyddai'r pregethwr lawn cymaint am ei bwnc a'r glaslanciau oedd yn ei feirniadu. Dyna oedd y sylw: "Beth ydyw creu wedi'r cwbl ond math o aberth?" Ond od oedd hwn yna'n ddywediad rhy gryf, os nad oedd creu ynddo'i hun yn aberth, y mae dygymod a chreadigaeth amherffaith yn dyfod i drefn ac yn ymagor i gyfeiriad ei chynllun yn aberth bid a fynno; fel nad yw'n ormod deud fod a fynno heddwch trwy waed y groes rywbeth a chymodi pethau yn gystal ag â chymodi dynion. Ni fuasai dim eisiau i Grist farw, y mae'n wir, i gymodi natur â Duw; ond yr oedd eisiau'r un dymer amyneddgar, rasol, ag a roes fodd iddo farw, i ddygymod â'r amherffaith ym mhob man. Pa wyddon a fesur byth y dioddefgarwch a ddangosodd Duw pan oedd ei ysbryd ef yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd, i ddeor bywyd a threfn o'r tryblith? Wedi i'r ddaear ymffurfio'n blaned, gymaint o dymheru a chyweirio a fu arni—ei thempro yn y tân a'r rhew, ei llunio a'i bugeilio hi nes ei chael yn well fferm i bob tenant newydd a fu ar ei hwyneb hi hyd yma. Oedd, yr oedd eisiau amynedd tebyg i'r amynedd a wnaeth gymod ar Galfaria, i ddygymod a syrthni a marweidd-