Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwy er y pryd yr ymwelsai a'u hardaloedd hwy o Goleg y Bala.

Ar ol rhyw ddwy flynedd a hanner yng Ngholwyn daeth galwad o Fethesda Cae Braich y Cafn; ymsefydlodd yntau yn Eglwys Jerusalem fis Ionawr 1867; ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth y Mehefin canlynol yn Llangefni. Jerusalem fu ei gartref hyd ddiwedd ei oes. Bu'n weinidog felly am agos i dair blynedd ar ddeg ar hugain. Yn 1870 y priododd. Merch ydyw Mrs. Roberts i Rees Jones o'r Felin Heli. Y disgrifiad cyntaf a gefais o'i briod oedd disgrifiad Mr. Roberts ei hun. Y tro cyntaf i mi gael rhai oriau yn ei gwmni, yr oedd ei hen elyn, y diffyg treuliad, yn ei flino. "Yr ydw i'n rhoi," meddai, "cymaint fedra'i o'r bai ar hwn, er mwyn arbed peth ar fy nghydwybod. Y mae'r wraig o drugaredd yn gallu credu mewn Rhagluniaeth." Nid oedd dim achos newid sill ar y disgrifiad yna wedi cael y fraint o weled Mrs. Roberts hefyd. Pwy a ŵyr werth cydymaith hyderus, a fedro â'i sirioldeb hafaidd ymlid prudd-der i ffwrdd. Gŵyr pawb a adwaenai Mr. Roberts yn dda, er ei fod y cyfaill tirionaf a dedwyddaf i hen ac ifanc fod yn ei gwmni, y byddai yntau, fel llawer dyn o ddifrifwch eithriadol, yn cael aml awr o lesmair o ddigalondid. Sylwasai ei gyfoedion yn y Coleg ar hyn yma ynddo. Anaml yn ei flynyddoedd cyhoeddus y byddai'n berffaith iach, er ei fod yn berchen cyfansoddiad pur gadarn i ymladd â'i afiechyd. Ac heb law hyn yr oedd ganddo allu dau neu dri o ddynion cyffredin i gystuddio'i feddwl am bethau a ystyriai'n ddiffyg neu'n fethiant ynddo'i hun, ac o herwydd beichiau a themtasiynau pobl eraill lawn cymaint hynny. Pan fyddai un o'i eglwys, yn enwedig un go addawol, ar y llithrigfa, teimlai ofid fel pe buasai un o'i deulu yn y perygl. Byddai disgyblu, yn enwedig diarddel, yn costio mwy iddo ef nag y gall dynion o natur lai byw nag ef ddychmygu. Pwy fyddai wan, nad oedd yntau