PENNOD IV.
AWDURDOD I FADDEU PECHODAU.
YN y ddwy bennod o'r blaen gwelsom fod yr Iawn yn ddatguddiad o rywbeth oedd yn bod erioed yn Nuw, a bod yr hyn oedd yn bod erioed yn Nuw wedi gosod ei ddelw ar holl waith Duw yn y greadigaeth. Y mae'r maddeuant felly, fel y'i datguddir yn angau'r Groes, bob amser, ac o angenrheidrwydd, yn golygu aberth a dioddef i Dduw. Y mae yn golygu llawenydd hefyd, ond llawenydd a brynir trwy ofid ydyw. Ni all ef ddim maddeu pechod heb ddyfod i mewn i'r gofid y mae pechod yn ei olygu i bawb da. Ac heblaw pechod y tu yma i bechod—y mae anawsterau eraill creadigaeth amherffaith yn pwyso ar y Creawdwr. Arno ef y disgyn y boen a'r ymdrech o'u cymodi hwy, o'u cael hwy i gysondeb a'i ewyllys ei hun. Rhaid i ni fynd gam ym mhellach yn awr, a gofyn, beth sy'n peri bod maddeuant a chymod, a phob peth tebyg i gymodi a maddeu, yn golygu straen ar garedigrwydd Duw. Paham na fedrai fo faddeu ar ei union heb deimlo unrhyw anhawster, gan fod mor dda ganddo faddeu?
Y mae'r Eglwys wedi arfer meddwl fod gan y Testament Newydd atebiad clir i'r gofyniad hwn; ac yn sicr y mae'r Apostolion yn bendant iawn arno; ac am a welaf fi, yr unig ffordd sy gan ddiwinyddiaeth ddiweddar i fychanu'r gainc yma yn eu dysgeidiaeth hwy ydyw dywedyd mai blas syniadau Iddewig ar feddwl yr Oes Apostolaidd sy'n cyfrif amdano. mae'r Epistol at yr Hebreaid yn ddiau yn dipyn o broblem i ddiwinyddiaeth ddiweddar; ond fe lwydda dysgawdwyr fel Fairbairn a Moberley a Lofthouse i droi min dadl diwinyddion Efengylaidd ar ddysgeidiaeth Paul a Phedr ac Ioan. Dangosant mai ôl magwr-