Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/231

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth Iddewig yw'r duedd i edrych ar aberth Crist trwy ddrych aberthau'r gyfraith. Ond un peth nas gwnânt yn foddhaol o gwbl ydyw esbonio ystyr maddeuant. Cawn weld yn y bennod nesaf pa le y mae hyd yn oed y rhai goreu ohonynt yn syrthio'n fyr. Y cwbl yr amcenir ato yn y bennod hon fydd adrodd unwaith eto y golygiad Apostolaidd fel yr wyf fi yn ei ddeall. Ac ni ellir gwneuthur hynny heb ddwyn ar gof i'r darllenydd, fod hadau'r ddysgeidiaeth Apostolaidd ar faddeuant yn nysgeidiaeth eu Hathro hwy.

Ni fynnem ar un cyfrif ddibrisio'r gymwynas fawr a wnaeth yr awduron a nodwyd a'u cyffelyb â'r Eglwys trwy'n rhybuddio rhag elfennau gwrthun yn yr hen athrawiaeth. Yr oedd eisiau hynny yn ddiau; ond y gwir plaen ydyw, fod un idea yn nysgeidiaeth y Gwaredwr ei hun mor ddieithr i feddwl Seisnig yr oes yma, cyn i Denney a Forsyth ysgrifennu, a dim sydd yn nysgeidiaeth Paul. Dyna ydyw honno, "Awdurdod i faddeu pechodau." "Fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau, yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys, Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i'th dŷ."[1] Awdurdod i faddeu, hawl i faddeu, pa feddwl y mae'r gair yn ei gyfleu i'r rhai a fyn fod maddeu yn beth hawdd, nis gwn. Tybed eu bod hwy o'r farn mai rhyw awdurdod seremonïol yn unig ydyw hon, fel yr awdurdod i rannu gwobrau mewn cystadleuaeth, neu fel yr awdurdod sy gan Frenin i rannu teitlau? Nid dyna feddwl yr Iesu y mae'n bur amlwg, namyn rhyw awdurdod a fyddai yn ei grym ym mhob man, nad oedd apêl oddiwrth ei dyfarniad mewn unrhyw lys. "Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau." Deallwyd ef felly gan ei wrandawyr. Gwybuant hwythau ei fod ef wrth gyhoeddi maddeuant yn gwneuthur rhywbeth mawr, yn llefaru mewn gwirionedd dros Dduw; ac nid yw yntau yn cywiro'r argraff honno. A phan roes yr Iesu

  1. Mathew ix. 6.