lliw mwy Iddewig na chyffredin arno. Y mae ysgrifenwyr sydd a'u bryd ar esbonio i ffwrdd, yn fedrus odiaeth ar osgoi pwyslais naturiol y Testament Newydd. Er enghraifft, fe geir esbonwyr mor ragorol a Westcott yn ceisio'ch perswadio chi nad oes dim mwy—dim llawer mwy beth bynnag—yn yr idea of lanhau trwy waed Crist, na bod bywyd Crist Iesu yn dyfod yn fywyd i ninnau. Einioes y creadur, meddant, ydyw'r gwaed; ac ystyr bod gwaed Iesu Grist yn glanhau oddiwrth bechod ydyw bod ysbryd Iesu Grist yn cael ei gyfrannu i ni i'n puro ni. Y mae hyn yn wir bid sicr, ond nid dyma wir yr adnod, I Ioan i. 7; a'r cwbl a ddywedwn ni yw, bod ysgrythyr Paul llawn cyn debyced o fod yn allwedd i'r golygiad Apostolaidd a'r dyfeisiau diweddar hyn.
Esbonio Rhufeiniaid iii. 25-26.
Fel y gŵyr pob efrydydd o'r Rhufeiniaid, y mae'r cyfieithiad yn bur anfoddhaol.
"Yr hwn a osododd Duw." Gallai hwn olygu naill ai penodi, gosod mewn swydd, neu ynte osod allan, gosod ger bron. Y diweddaf, y mae'n debyg, yw'r goreu, am mai hwn sy'n cytuno oreu a phrif ddrychfeddwl y ddwy adnod. "I ddangos ei gyfiawnder ef," ebai adn. 25; "i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn," ebe adn. 26. Dangos ydyw gair mawr yr ysgrythyr yma; ac â hynny yn sicr fe gytuna gosod ger bron " " yn well. "Yr hwn a osododd Duw ger bron yn iawn."
"Yn Iawn." Yr hen esboniad ar hwn y mae hyd yn oed y rhai a ymladdant yn ei erbyn fel mater o ddiwinyddiaeth yn ei dderbyn fel eglurhad. 'Yr hwn a osododd Duw yn gymodfa," "yn sail cymod" neu yn "fan cymodi." Y cyfieithiad y mae Fairbairn yn ei ddewis ydyw, " yr hwn a osododd Duw yn ddyhuddol," sef yn ddyhuddwr neu yn un dyhuddol. O