ran ei ramadeg yn wir gall y gair fod yn wrywaidd neu yn amlaid; eithr pa un bynnag o'r ddau a ddewisom y mae'r idea o gymod i mewn—gŵr o gymod neu sylfaen cymod. Gwell, at ei gilydd, yr ystyr amlaid. Defnyddir ef yn y Deg a Thriugain am y drugareddfa oedd yn gaead i Arch y Cyfamod, megis yn Lefiticus xvi. 2. Yn Iesu Grist y mae Duw yn dyfod i gymod a dynion. Ac os gofyn rhywun, pa un ai cymodi Duw yr ydys ynte cymodi dynion, ateb Harnack sy'n ddigon ar hynny wedi'r elom dan y wyneb, y mae'r ddau yn mynd yn un. Y mae rhyw bethau y mae yn rhaid cael dau i'w gwneuthur hwy. Y mae cweryla felly; ac y mae cymodi felly hefyd.
Trwy ffydd yn ei waed ef,"—heb goma rhwng y ddau y ceir y frawddeg yn y Beibl Cymraeg. Yr ystyr felly fyddai, "trwy ffydd, a honno'n ffydd yn y gwaed," ffydd yn yr aberth. Rhoi coma ar ol ffydd fyddai'r goreu, debyg, "trwy ffydd, yn ei waed ef." Dau amod bod Crist yn Iawn a feddylir, ffydd o du'r ddaear ac aberth o du'r nefoedd.
"I ddangos ei gyfiawnder ef "—cyfiawnder Duw. Yn y fan yma y mae'r ymadrodd hwn ar y trothwy rhwng ei ystyr gyffredin a'r ystyr neilltuol sydd iddo yn yr Epistol hwn. Ystyr gyffredin cyfiawnder Duw ydyw'r briodoledd o gyfiawnder. Yr ystyr yn y Rhufeiniaid yn gyffredin ydyw y cyfiawnder a ddyry Duw yng Nghrist i bechadur. Yn y fan yma y mae cyfiawnder Duw" ar y terfyn rhwng y ddwy, yn llithro'n wir o'r naill i'r llall. Golyga "dangos ei gyfiawnder ef" ddangos ei fod ef yn gyfiawn, ond fod y frawddeg nesaf yn deud mai "cyfiawn ac yn cyfiawnhau" a feddylir.
"Trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen." Pa rai oedd y rheini? Nid pechodau a gyflawnasid gan y pechadur cyn ei ddyfod at Grist am faddeuant, namyn y pechodau a wnaethid cyn i Grist ymddangos. Ond er fod hynny yn lled amlwg, nid