yw ystyr y cymal i gyd ddim yn amlwg eto. Yn lle "trwy faddeuant" cyfieither, "gan ddarfod maddeu." Nid yw'r gair am faddeu mo'r gair arferol chwaith. "Myned heibio i bechod " ydyw'r maddeu yma, "i ddangos ei gyfiawnder ef, gan ddarfod myned heibio i'r pechodau a wnaethid o'r blaen." Yr oedd dynion. yn cael trugaredd ar hyd yr oesoedd; eithr nid pardwn llawn oedd hynny—rhyw faddeuant ar ei hanner, gadael y peth dan ystyriaeth.
"Trwy ddioddefgarwch Duw." Pa fodd y gwnaeth Duw â phechodau'r hen Orchwyliaeth? Ni faddeuwyd mo honynt yn llwyr nac yn llawn, ond mynd heibio iddynt mewn dioddefgarwch, "gan ddarfod myned heibio i'r pechodau a wnaethid o'r blaen trwy ddioddefgarwch Duw. Yr oedd Duw y pryd hynny yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth"; ond maddeuant o ddioddefgarwch ydoedd y maddeuant hwnnw. Ond atolwg, beth heb law dioddefgarwch sy mewn maddeuant? Yr ateb y buasai Paul yn ei roddi ydyw, cyfiawnder. Y mae dwy elfen mewn maddeuant llawn, dioddefgarwch, onid e ni byddai yn faddeuant gwerth ei gael. Ni fyddai dim grym ynddo. Yr oedd Duw bid siwr yn maddeu o'i ran ef yng ngolwg angau'r Groes. Fe wyddai ef o'r dechreu beth oedd maddeuant yn ei olygu. Yr oedd ystyr yr aberth drud yn bod iddo ef erioed; ond ni wyddai dynion mo hynny. Nid oedd ffordd Duw o faddeu ddim wedi ei ddatguddio. O ganlyniad yr oedd y maddeuant, ag edrych arno o du'r ddaear, yn faddeuant ar ei hanner, yn bardwn heb ei selio. Hwy a'i derbynient ef yn syml am fod y Brenin Mawr yn ddigon caredig i'w roi. Maddeuant o ddioddefgarwch ydoedd iddynt hwy. Weithian y mae yn faddeuant cyfiawn hefyd; oblegid weithian y mae Duw wedi datguddio'i hawl i faddeu. "I ddangos ei gyfiawnder ef, gan ddarfod myned heibio i'r pechodau a wnaethid o'r blaen trwy ddioddefgarwch Duw."