"I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn,"—"y pryd hwn" yn wrthgyferbyn i'r pryd y buasai maddeuant yn fater o ddioddefgarwch yn unig, cyn datguddio'r elfen o gyfiawnder oedd ynddo. "I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn," yr elfen yn y maddeuant oedd heb ei dangos dan yr Hen Destament.
"Fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau'r neb sydd o ffydd Iesu." Prin y mae lle i ddadleu nad yr hen esboniad cynefin sy'n taro'r hoel ar ei phen yn y fan yma. "Cyfiawn, ac ar yr un pryd yn cyfiawnhau" ydyw'r meddwl. Pwysleisio'r meddwl yna y mae'r Cyfieithiad Diwygiedig, yr hwn sydd yn ddiameu'n gywirach: "fel y byddai efe yn gyfiawn ei hun, ac yn cyfiawnhau'r neb sydd o ffydd Iesu." Rhyw arlliw o wahaniaeth a wna esboniad Horace Bushnell "cyfiawn, ac o ganlyniad yn cyfiawnhau." Bwriwch, er mwyn ymresymiad, fod hwnnw yn esboniad iawn. Y cwbl y mae yn ei olygu ydyw, nad yw'r cyfiawnder sy'n bodloni ar fantoli a cherdded terfynau ddim yn mynd yn ddigon pell, fod y cyfiawnder goreu yn mynd tu hwnt i hynny mewn gweithredoedd o ymgeledd. Gwirionedd pwysig yn ddiau yw hwnnw, gwirionedd yr adnod honno: Da ac uniawn yw yr Arglwydd o herwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd." Nid er bod Duw yn gyfiawn, ond am ei fod yn gyfiawn, y mae yn achub. Ac fel pob peth braidd a ddywed Bushnell, y mae hon yn ystyriaeth ffrwythlon iawn; ond y llall sy'n gorwedd oreu ar y gystrawen sy dan sylw gennym ni, "cyfiawn ei hunan, ac er hynny yn cyfiawnhau." Mater o bwyslais yw'r gwahaniaeth bron i gyd. Gallwn bwyso ar y syndod bod cyfiawnder gwell yn Nuw na'r cyfiawnder deddfol hwnnw, sy'n fodlon darnodi hawliau a thalu dyledion, a mynnu dyledion yn enwedig, sef y cyfiawnder a wnelo rywbeth i gael yr anwir i gydymdeimlo ag ef; neu ynte gallwn bwyso ar y syndod arall, bod cyfiawnder Duw yn dwyn traul yr anhawster