sy mewn bod yn gyfiawn ei hunan a chyfiawnhau'r euog yr un pryd. A thybied yr wyf yn bur gryf, mai'r diweddaf yna ydyw syndod Paul yn y fan hyn.
Os ydyw'r eglurhad uchod yn gywir, neu yn gywir yn ei brif linellau, yna baich y ddwy adnod ydyw bod Duw yn aberth Crist yn dangos ei hawl i faddeu. Y peth oedd yn bod i Dduw o'r blaen a ddatguddiwyd yma i ddynion—bod maddeuant y Brenin Mawr, nid yn unig yn fater o garedigrwydd, ond hefyd yn fater o gyfiawnder.
Canlyniadau'r Athrawiaeth.
Gwelir mor drwyadl agos at yr ymarferol a'r profiadol oedd diwinyddiaeth yr Apostol Paul bob cam o'r daith, wrth ystyried y defnydd a wna fo o'r athrawiaeth am berthynas maddeuant a dioddefiadau Crist yn y paragraff y mae'r ysgrythyr yma'n rhan o hono. Y mae o leiaf dri o'i chanlyniadau hi yn amlwg oddiwrth y paragraff ei hun, cyfiawnhad trwy ras, cyfiawnhad trwy ffydd, a chyfiawnhad yng nghyrraedd pawb. Bydd sylw byr ar bob un o'r tri yn help i glirio'n syniad ni am yr athrawiaeth ei hun, a chyda hynny yn help i dorri'r ddadl ar y cwestiwn, Beth oedd dehongliad yr Apostolion ar ystyr angau'r Groes? Cydnebydd pawb fod eglurhad Paul ar drefn y cyfiawnhau yn bwnc a ddelir yr un mor gadarn gan ddysgawdwyr y Testament Newydd i gyd, heb eithrio Iago chwaith. Ac os oedd athrawiaeth Paul ar y cyfiawnhad yn dir cyffredin iddo ef a'r lleill, y mae hyn yn mynd ym mhell i brofi fod ei olygiad ef ar yr Iawn yr un un yn ei brif linell a'u golygiad hwythau.
1. Cyfiawnhad trwy ras. "Pawb a bechasant, ac ydynt yn ol am ogoniant Duw, a hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad, trwy ei ras ef, trwy y prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu." Y mae hwn yn dilyn yn deg oddiwrth yr ystyriaeth bod Duw yng Nghrist wedi