dangos ei hawl i faddeu. Oblegid cyn dyfod Crist nid oedd yn syn fod pobl yn cymysgu rhywbeth o'u heiddo'u hunain a thrugaredd Duw. Yr oedd trugaredd i bechadur yn beth mor fawr, fel nad oedd ryfedd bod dynion yn rhyw ddyfalu beth tybed oedd ynddynt hwy i dynnu sylw trugaredd atynt. Dyfalu'r oeddynt fod rhyw weithredoedd o'r eiddynt hwy yn help i Dduw eu cymeradwyo. Weithiau yn wir y mae Paul fel pe buasai yn rhyw hanner esgusodi ei gyd—genedl. Israel, yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder. Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y ddeddf."[1] Gair tringar iawn am unwaith am anghrediniaeth yr Iddew, "megis trwy weithredoedd y ddeddf." Fel pe dywedasai: ni charwn i ddim deud fod Israel yn ceisio'i gyfiawnhau yn hollol trwy weithredoedd; eithr braidd nad i rywbeth felly'r oedd hi'n dyfod, megis trwy weithredoedd y ddeddf. Ond wedi dyfod Crist Iesu, wedi i'w aberth ef ddangos pa le'r oedd hawl Duw i faddeu, nid oes dim esgus weithian dros fod neb yn cymysgu dim o'i eiddo'i hun a rhad drugaredd y Duw Mawr. Efo a roddes yr aberth, yn gystal a'i dderbyn. Arno ef, y maddeuwr, y disgynnodd yr holl draul. Yn wir ni allasai dim o'r tu allan iddo ei gyffroi i dosturio. Rhyw feddwl felly a dynnodd y fath ddiflastod ar yr hen ddiwinyddiaeth: Duw anhueddgar i drugarhau yn troi'n drugaredd am fod ei Fab wedi dioddef, a golygu'r Mab fel rhyw drydydd oddi allan yn ymyrraeth o'n tu ni. O herwydd bod ei berthynas ef a'r Tad yn un ar ei phen ei hun yr oedd ei ddioddefaint ef yn iawn, o herwydd bod Duw yn dioddef yn ei ddioddefaint ef. Nid oedd bosibl ennill yr Anfeidrol trwy ddim o'r tu allan iddo. "Nid digon Libanus i gynneu tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm." Y mae cyfiawnhad trwy ras yn un o ganlyniadau'r athrawiaeth hon.
- ↑ Rhuf. ix. 31, 32.