Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wan trwy gydymdeimad a hwy? Pwy a dramgwyddid, nad oedd yntau'n llosgi?

Cafodd fyw i weled ei unig fab, Mr. Arthur Rees. Roberts, wedi ennill gwobr bwysig mewn cystadleuaeth lem, wrth orffen paratoi at ei alwedigaeth fel cyfreithiwr; a chafodd ei weled am flynyddoedd wedyn yn prysur ennill gradd dda yn yr alwedigaeth wedi mynd iddi. Ysbrydoliaeth a deimlid am ddyddiau ar ol bod yno, oedd cael bwrw ychydig oriau ar aelwyd y teulu hwn. Help mawr i sefydlu dyn mewn ffyddlondeb i'r Efengyl, ac mewn hyder arni am iachawdwriaeth y byd, ydyw gweled ei hol hi ar deuluoedd, a gweled am ambell i ŵr cyhoeddus, a adwaenai dyn o'r pellter o'r blaen, nad yw'n myned ronyn llai dyn o'i nabod gartref.

II

Llawer o wahanol feddyliau sydd am waith bugail eglwysig. Myn rhai mai gŵr i wneud popeth ydyw, eraill mai un i wneud hyn a hyn o bethau, a dim ond y rheiny. Ac yr ydys llawn mor anghytun ar y modd y dylai bugail wneud ei waith ag ar derfynau'r gwaith ei hun. Ni cheir fod hanes bugeiliaid llwyddiannus yn torri'r ddadl o blaid unrhyw ddull penodol fel yr unig un teilwng. Prin y byddai Mr. Thomas Roberts i fyny a safon y rhai a ystyriant y dylai gweinidog wneud baich ei waith bugeiliol trwy ymweled mynych a thai. Yr oedd yn dra gofalus o'i gleifion; a byddai yr ymgeledd ysbryd a roddai efe iddynt yn rhywbeth amgen na ffurf. Yr oedd yn ddiarhebol o gymwynasgar i'r anghenog. Adwaenai ei braidd yn dda; ac yn hyn yr oedd yn llond y cyngor a roddai efe i fugeiliaid ieuainc, ymweled digon i adnabod y bobl. Ond bugail yn ol y syniad mwyaf Cymreig am fugeilio ydoedd Mr. Roberts. Tybia'r syniad hwnnw fod pawb iach yn dyfod i'r capel gyd a graddau o gysondeb, a bod y