Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/241

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ngharedigrwydd Duw mo'r digon. Rhaid hefyd dderbyn y maddeuant ar y tir y mae Duw yn ei roi—ei dderbyn ef yng Nghrist. "Nid oes iechydwriaeth yn neb arall, ac nid oes enw arall wedi ei roddi dan y nef ym mysg dynion, trwy'r hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig." "Myfi yw y ffordd, y gwirionedd, a'r bywyd; nid yw neb yn dyfod at y Tad ond trwof fi." I'r sawl a wybu pa le y cafodd Duw le i ddangos ei hawl i drugarhau, ei awdurdod i faddeu, rhaid derbyn maddeuant yn y datguddiad uchaf hwn; ac y mae ei wrthod ef yn y fan yma yr un peth a'i wrthod yn gyfan-gwbl. Y mae cyfiawnhad trwy ffydd yn dilyn oddiwrth fod Duw yng Nghrist yn dangos ei hawl i faddeu.

3. Canlyniad arall eto ydyw cyfiawnhad yng nghyrraedd pawb. Cyhoeddi hwn y mae Paul, nid ei brofi. "Ai i'r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw efe i'r cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i'r cenhedloedd hefyd." Taeru'r peth yr ydys, nid ei brofi. Cymerodd Paul ddwy bennod, o ganol y gyntaf i ganol y drydedd, i brofi bod ar bawb yn Iddewon a Groegwyr—eisiau'r cyfiawnder yma sydd trwy ffydd; ond caniatewch chi fod ar bawb ei eisiau, nid oes arno ef eisiau dim pum munud i brofi fod digon o hono. Y mae yn hunanbrofedig. Os o Dduw y mae'r Iawn, os edrychodd Duw iddo'i hun am oen y poeth—offrwm, os ynddo'i hunan y cafodd ef ffordd i drugarhau, yna y mae son am derfyn a chyfrif yn ynfyd.

"Dyweder maint y Duwdod,
Yr un faint yw'r Iawn i fod."

Y mae efengyl i fyd cyfan yn gorffwys yn deg ar yr idea fod Duw yng Nghrist yn dangos ei hawl i faddeu.