Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/242

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Crynhodeb

Gwelir ein bod yma, a chymryd y paragraff i gyd i ystyriaeth, ym mhresenoldeb cylch o feddyliau tra chynefin gan yr oes Apostolaidd. Trown braidd i'r fan a fynnom, a gwelwn fod y meddyliau hyn, iechydwriaeth trwy ras, a thrwy ffydd, i bawb ac ar bawb a gredant, yn rhan o drysor cyffredin y disgyblion cyntaf. Nid ffrwyth ymresymu a magu system ydynt o gwbl, ond rhan o gynnwys plaen ac amlwg y traddodiad boreaf. Bydd dyfynnu un enghraifft yn ddigon yma; a gall y darllenydd eu lliosogi faint a fynno. Nid oes eisiau gwell esiampl o'r traddodiad bore hwn nag araith Simon Pedr yng Nghymanfa Jerusalem, tua 50 o.c.

"Ha wyr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o'r cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu. A Duw, adnabyddwr calonnau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glan, megis ag i ninnau. Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni â hwynt, gan buro'u calonnau hwy trwy ffydd. Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, dodi iau ar warrau'r disgyblion, yr hon nid allai'n tadau ni na ninnau ei dwyn? Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd a hwythau."[1] Llefaru y mae fel un yn cyhoeddi pethau a gredid yn ddiameu gan ei wrandawyr. casgliad a dynnai efo oddiwrth hynny yn unig sydd yn newydd ni chodwyd cymaint ag un llais yn erbyn seiliau ei ymresymiad. "Yr holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ym mhlith y cenhedloedd trwyddynt hwy."[2] Dyma'r meddyliau a gysylltir yn gyffredin a dysgeidiaeth Paul —gras a ffydd, heb weithredoedd y ddeddf, a'r cwbl

  1. Actau xv. 7-11.
  2. Actau xv. 12.